Gwasanaethau Bws Wythnosol 'Ar Gais’
Ffoniwch ymlaen llaw i wneud cais am sedd ar y gwasanaethau hyn.
Bydd tocynnau bws consesiynol Cymru yn cael eu derbyn ar y gwasanaethau hyn, gan alluogi i’r bobl sydd â thocynnau deithio am ddim. Mae costau plant hefyd ar gael ar y gwasanaethau hyn. Nid oes angen i chi fod yn aelod o Greenlinks i gael mynediad at y gwasanaethau bws wythnosol.
Sylwch: Bydd teithwyr yn cael gwybod am eu hamseroedd casglu o leoliadau y cytunwyd arnynt un diwrnod gwaith cyn teithio. Sylwch gall yr amser casglu amrywio a bod hyd at 10 munud yn gynnar neu 10 munud yn hwyr.
Gwasanaeth G1: Sain Tathan i Ben-y-bont ar Ogwr drwy'r Bont-faen a phentrefi cyfagos
Dydd Llun i ddydd Gwener
Bydd y gwasanaeth hefyd yn cysylltu ag Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae llwybrau canllaw ar gyfer pob diwrnod, ac mae’r rhain yn hyblyg yn ddibynnol ar alw.
Gwasanaeth G4: Rhannau Gwledig y Fro i Gaerdydd
Bob dydd Iau
Bydd y gwasanaeth dydd Iau yn cael ei gynnal ar gais i bedwar safle o amgylch Caerdydd; ardaloedd manwerthu Croes Cwrlwys, ardal fanwerthu Rhodfa’r Gorllewin, Ysbyty Athrofaol Cymru, Y Mynydd Bychan a/neu Canol Dinas Caerdydd.