Cam A: Gosod Cyd-destun a Chwmpasu
Paratoi’r Adroddiad Cwmpasu ACI Drafft yw cam cyntaf y broses ACI ac mae'n amlinellu'r materion a'r amcanion y bydd cynaliadwyedd y CDLlN yn cael ei asesu yn eu herbyn. Mae’r Adroddiad Cwmpasu ACI drafft yn gam casglu tystiolaeth i raddau helaeth ac yn nodi'r cyd-destun lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol presennol gan gynnwys data llinell sylfaen ac mae’n canfod materion cynaliadwyedd sy’n berthnasol i'r ardal leol. Mae hyn wedi cynnwys adolygiad o'r cynlluniau, y polisïau a’r strategaethau sy'n berthnasol i baratoi'r CDLlN, yn ogystal ag adolygiad o nodweddion sylfaenol amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd Bro Morgannwg.
Manylion Ymgynghori
Bu’r Adroddiad Cwmpasu ACI drafftyn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 24/08/2022 a 29/09/2022. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r newidiadau arfaethedig yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Bydd y dogfennau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Mae’r Adroddiad Cwmpasu ACI Drafft a ymgynghorwyd arno, a’i grynodeb annhechnegol cysylltiedig, i’w gweld isod:
Adroddiad Cwmpasu ACI Drafft Adroddiad Cwmpasu ACI Drafft Annhechnegol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wneud sylwadau ar yr adroddiad hwn yn berson, gellir gwneud hyn trwy apwyntiad yn Swaddfa’r Doc. Ar gyfer apwyntiadau, cysylltwch â ni.