Cost of Living Support Icon

Adnoddau defnyddiol 

Gwybodaeth am asiantaethau ac elusennau ategol sy'n gallu helpu gydag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Plant yng Nghymru

Plant yng Nghymru yw’r corff ambarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru. 

Children in Wales is the national umbrella body for organisations and individuals who work with children, young people and their families in Wales. Maen nhw'n:

  • Cyfrannu at wireddu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru

  • Brwydro dros wasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel a chyfran deg i bob plentyn a pherson ifanc

  • Sicrhau sylw a thriniaeth arbennig i blant mewn angen a’r rhai sydd ar y cyrion

  • Sicrhau bod llais gan blant a phobl ifanc

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD)

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) yn rhoi cyngor a gwybodaeth am ddim ar ystod o ddewisiadau a gweithgareddau i blant o 0-20, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am feithrinfeydd, gwarchodwyr plant, clybiau y tu allan i oriau ysgol, cylchoedd chwarae a grwpiau rhieni a phlant bach. Mae GGiD hefyd yn rhoi cymorth a chyngor ar dalu am ofal plant a gweithio ym maes gofal plant.

 

Y Tîm Cysylltiadau Dysgu

Mae'r Tîm Cysylltiadau Dysgu yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i herio tangyflawniad y dysgwyr mwyaf agored i niwed yn eu lleoliadau. 

 

  • 01446 709130

Gwasanaeth Cwnsela yn yr Ysgol

Gwasanaeth cwnsela proffesiynol, annibynnol i blant a phobl ifanc 9-19 oed sy'n byw ym Mro Morgannwg, a ddarperir gan Barnado's.

 

SNAP Cymru

Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol ar addysg am ddim ar gyfer plant a phobl ifanc.

 

Y Mynegai

Mae'r Mynegai yn darparu gwybodaeth ar wasanaethau, cymorth a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol ledled Bro Morgannwg.

 

Gwasanaeth Cynhwysiant

Mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant yn darparu cyngor a chymorth i ysgolion, disgyblion a theuluoedd ar:

 

  • Presenoldeb a Lles Addysg

  • Cefnogi Cyrhaeddiad a Lles (CLlY)

  • Addysg Ddewisol yn y Cartref (ADdC)

  • Plant sy’n Colli Addysg

  • Tiwtora y Tu Allan i’r Ysgol (TTAY)

  • Cyflogaeth a'r sector adloniant

Tîm Iechyd ac Anableddau Plant

Gwasanaeth, yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol, ar gyfer plant a phobl ifanc, rhwng 0 a 18 oed, ac sydd ag anableddau parhaol a sylweddol sy'n cael effaith gymedrol neu ddifrifol ar eu gweithrediad o ddydd i ddydd.

 

Dewis Cymru

Gwefan ar gyfer lles yng Nghymru, gyda gwybodaeth am wasanaethau lleol a chenedlaethol:

 

Fforwm Rhieni a Gofalwyr Pobl Ag Anableddau Dysgu Cymru Gyfan

Mae’r Fforwm Cymru Gyfan yn cynrychioli ac yn cefnogi rhieni a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu ledled Cymru.

 

http://www.allwalesforum.org.uk/ 

 

 

  • www.allwalesforum.org.uk