Gellir gwneud cais am CDU gan riant/gofalwr, gweithiwr proffesiynol neu'r dysgwr ei hun.
-
Ar gyfer plant 0-3 oed, gwneir y cais hwn i'r awdurdod lleol
-
Ar gyfer plant oedran ysgol, gwneir y cais i'r ysgol i ddechrau
-
Ar gyfer myfyrwyr coleg, gwneir y cais i'r coleg
Y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol fydd eich prif bwynt cyswllt mwy na thebyg, ac eithrio os nad yw eich plentyn wedi dechrau yn yr ysgol neu'r dosbarth meithrin -yn yrachos hwn, eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, yr ALNLO y blynyddoedd cynnar neu arbenigwr y blynyddoedd cynnar arall o'ch awdurdod lleol fydd eich pwynt cyswllt.
Os nad yw'r ysgol yn cytuno bod gan eich plentyn ADY, rhaid iddynt roi gwybod i chi ac esbonio pam. Os byddwch yn anghytuno il'r penderfyniad, dylech drafod hyn gyda'r ysgol yn y lie cyntaf. Os na fyddwch yn gallu dod i gytundeb, gallwch ofyn i'r awdurdod lleol adolygu'r penderfyniad.
Gweler y wybodaeth Anghytundeb a Datrysiad.