Hafan >
Byw >
Ysgolion >
Changing Stanwell School from Foundation School to Community Maintained School
Newid Ysgol Stanwell o fod yn Ysgol Sefydledig i Ysgol Gymunedol a Gynhelir
Ymgynghoriad i newid Ysgol Stanwell o fod yn Ysgol Sefydledig i Ysgol Gymunedol a Gynhelir o fis Medi 2024
Cyflwyniad i’r cynnig
Y cynnig a gyflwynwyd gan gorff llywodraethu Ysgol Stanwell yw newid categori'r ysgol o ysgol sefydledig i ysgol gymunedol a gynhelir o fis Medi 2024 ymlaen.
Mae'r cynnig hwn wedi dod i'r amlwg oherwydd heriau ariannol a sefydliadol diweddar y mae Ysgol Stanwell wedi'u hwynebu, ac mae'n darparu mecanwaith i gefnogi uchelgeisiau Stanwell sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Mae'r penderfyniad i newid o ysgol sefydledig i ysgol gymunedol yn benderfyniad a wnaed gan gorff llywodraethu Ysgol Stanwell a byddai gyda chytundeb Cyngor Bro Morgannwg.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu hystyried pan fydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu ar y ffordd ymlaen.
Newid Ysgol Stanwell o fod yn Ysgol Sefydedig i Ysgol Gymunedol a Gynhelir
Rhesymau dros y cynnig
-
Byddai'r newid i ysgol gymunedol a gynhelir yn gwella rheolaeth ariannol, yn sicrhau cydymffurfio ac yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor yn ogystal ag effeithio'n gadarnhaol ar reoli derbyniadau o fewn ei dalgylch presennol, yn ogystal â ledled Bro Morgannwg
-
Byddai'n caniatáu gwell mynediad at ffrydiau cyllid fel grantiau ysgolion bro a chyllid a106, er enghraifft, drwy Raglen Cynnal a Chadw Cyfalaf a Buddsoddi mewn Ysgolion y Cyngor
-
Byddai'r ysgol yn elwa ar weithio'n agosach gydag ysgolion uwchradd eraill drwy'r Awdurdod Lleol gan sicrhau bod yr holl gyfleoedd ar gael a'u trosoli’n briodol. Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn amlinellu ymhellach fanteision ac anfanteision newid statws
Ymateb i’r ymgynghoriad
Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o 11 Medi 2023 hyd at 23 Hydref 2023.
Mae eich barn yn bwysig i ni, ac mae nifer o ffyrdd y gallwch ymateb i’r ymgynghoriad:
Newid statws Ysgol Stanwell
Ysgol Stanwell
Archer Road
Penarth
CF64 2XL
Bydd yr holl ymatebion wedi cyflwyno i ni erbyn 23 Hydref 2023 yn cael eu hystyried gan y corff llywodraethu cyn iddo benderfynu p’un a ddylid cyhoeddi hysbysiad statudol ai peidio.
Adroddiad Ymgynghori
Ar 23 Tachwedd 2023, ystyriodd y Corff Llywodraethol yr adroddiad ymateb i’r ymgynghoriad a’r holl ddogfennau perthnasol eraill a phenderfynodd symud ymlaen i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig.
Y cynnig yw newid Ysgol Stanwell o ysgol sefydledig i ysgol a gynhelir yn y gymuned o fis Medi 2024.
Os hoffech gael copi caled o'r adroddiadau, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn: sustainablecommunitiesforlearning@bromorgannwg.gov.uk
Cyhoeddi Hysbysiad Statudol i newid Ysgol Stanwell o fod yn Ysgol Sefydledig i Ysgol Gymunedol a Gynhelir o fis Medi 2024
Mae'r Corff Llywodraethol wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i newid categori Ysgol Stanwell.
Mae'r hysbysiad statudol a'r llythyr ar gael i'w lawrlwytho. Mae copïau caled o'r hysbysiad ar gael ar gais drwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau yn y manylion cyswllt isod.
Yn unol ag adran 48 o’r ‘Ddeddf’ caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynnig cyn diwedd 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyhoeddwyd y cynigion, hynny yw erbyn dydd Mawrth 6 Chwefror 2024.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgynghori, asesiad o'r effaith ar y gymuned a'r llythyr yn nodi’r cynnig.
Gallwch ddod i sesiwn hefyd a thrafod hyn â ni wyneb yn wyneb:
Sesiwn
|
Dyddiad ac amser
|
Lleoliad
|
Sesiwn galw rhieni a'r gymuned
|
Dydd Mercher
27 Medi
15:00 – 18:00
|
Ysgol Stanwell,
Heol Archer, CF64 2XL
|
Sesiwn galw heibio gymunedol
|
Dydd Mercher 11 Hydref
15:30 – 17:30
|
Ysgol Stanwell,
Heol Archer, CF64 2XL
|
Mae hon yn ffordd dda o gael atebion i unrhyw gwestiynau sydd gan lawer ohonoch am y cynigion. Byddwn yn gofyn o hyd eich bod yn llenwi ffurflen ymateb ar yr ymgynghoriad, oherwydd gallwn ond dderbyn safbwyntiau yn ysgrifenedig.
Penderfyniad
Ar 8 Chwefror 2024, cymeradwyodd Corff Llywodraethu Ysgol Stanwell y cynnig i newid categori'r ysgol o ysgol sefydledig i ysgol gymunedol a gynhelir o fis Medi 2024 ymlaen.
Gellir gweld holl ddeunyddiau’r ymgynghoriad isod: