Ehangu Ysgol Sant Baruc
Ymgynghori ar y cynnig i ddarparu lleoedd ychwanegol mewn ysgolion i ateb y galw am addysg Cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol trwy ehangu Ysgol Sant Baruc o 210 o leoedd i 420 o leoedd o fis Medi 2021.
Cyflwyniad i'r cynnig
Mae’r Cyngor yn cynnig ehangu Ysgol Sant Baruc o 210 o leoedd i 420 o leoedd o fis Medi 2021.
Mae ysgol newydd â 420 o leoedd ar Lannau’r Barri wedi cael ei chynnwys fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor. Cynigir y byddai Ysgol Sant Baruc yn symud i mewn i’r adeilad hwn erbyn mis Medi 2021 i ddarparu’r capasiti gofynnol.
Mae’r Cyngor yn ymgynghori ar ehangu Ysgol Sant Baruc. Er bod trosglwyddo’r ysgol i’r adeilad newydd yn rhan o’r ddogfen ymgynghori hon, nid yw hyn yn destun i’r broses statudol gan y byddai’r trosglwyddiad o fewn 1 filltir.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu hystyried pan fydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu sut i fwrw ymlaen.
Rhesymau dros y cynnig
Rhaid i’r Cyngor sicrhau bod ysgolion yn gwasanaethu eu cymunedau lleol a’u bod yn adlewyrchu’r galw. Mae angen ateb y galw yn y dyfodol o du’r datblygiadau tai newydd yn y Barri, yn ogystal â’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg.
-
Byddai adeilad ysgol newydd â 420 o leoedd yn darparu ar gyfer y cynnydd rhagamcanol yn niferoedd y disgyblion o ganlyniad i’r datblygiad newydd.
-
Byddai’r capasiti uwch hefyd yn darparu ar gyfer y cynnydd rhagamcanol mewn rhieni sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg.
-
Mae Ysgol Sant Baruc yn cynnwys prif adeilad o Oes Fictoria a bloc â dwy ystafell ddosbarth a godwyd yn y 1980au. Mae’r ysgol ar safle cyfyng iawn ar lethr gyda mannau hamdden cyfyngedig yn yr awyr agored a dim gobaith o gynyddu’r safle’n sylweddol i gyrraedd safonau ysgolion yr 21ain Ganrif.
-
Ar hyn o bryd mae’r ysgol yn defnyddio’r cyfleusterau ffreutur yn Ysgol Gynradd High Street drws nesaf gan nad oes darpariaeth arlwyo yn yr ysgol.
-
Mae’r ystafelloedd dosbarth llai’n rhy fach ar gyfer nifer derbyn yr ysgol, sef 30 o blant.
-
Nid yw’n bosibl disodli’r ysgol ag adeilad newydd yn ei lleoliad presennol oherwydd mannau awyr agored cyfyngedig.
Dod o hyd i fwy
Bydd y cyfnod ymgynghori rhwng 08 Ionawr 2019 a 22 Chwefror 2019. Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgynghori ynghyd, asesiad effaith cymunedol, â llythyr sy’n manylu ar y cynnig.
I gael rhagor o wybodaeth am gamau’r broses ymgynghori statudol, gweler ein canllawiau defnyddiol.
Adroddiad ar yr Ymgynghoriad
Mae’r awdurdod yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ystyried ein cynnig ac i’r rheiny a fynegodd eu barn i ni. Cafodd yr holl sylwadau eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ar 1 Ebrill 2019.
Mae’r Adroddiad ar yr Ymgynghoriad a llythyr ar gael i’w lawrlwytho. Mae copïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais drwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau drwy ddefnyddio’r Manylion Cyswllt isod.
Cyhoeddi Hysbysiad Statudol i ehangu Ysgol Sant Baruc
Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i ehangu Ysgol Sant Baruc.
Mae’r hysbysiad a’r llythyr statudol ar gael i’w lawrlwytho. Mae copïau caled o’r hysbysiad ar gael ar gais trwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar y Manylion Cyswllt isod.
Yn unol ag adran 49 ‘y Ddeddf’, o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn dan adran 48 'y Ddeddf', hynny yw erbyn 27 Mai 2019, gall unrhyw berson wrthwynebu'r cynigion.
Nodwyd na chafwyd gwrthwynebiad statudol yn ystod y cyfnod rhybudd statudol.
Penderfyniad
Ar 29 Gorffennaf 2019, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg y cynnig i ymestyn Ysgol Sant Baruc o 210 lle i 420 lle o fis Medi 2021.O ganlyniad, caiff adeilad newydd ei godi ar gyfer Ysgol Sant Baruc ar y safle glan yr afon ar gyfer 420 disgybl a bydd yr ysgol yn symud o 1 Medi 2021.
Mae'r Llythyr Penderfyniad ar gael i'w lawrlwytho neu mae gopïau caled ar gael ar gais drwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, gweler y manylion cyswllt isod.
Gweithredu
Ar 4 Gorffennaf 2020, cymeradwyodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor ddyddiad gweithredu diwygiedig ar gyfer y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Sant Baruc o 210 o leoedd i 420 o leoedd. Bydd y cynnig yn cael ei roi ar waith o fis Medi 2022 yn unol â’r gwaith o adeiladu'r ysgol newydd. Nid yw'r dyddiad diwygiedig yn effeithio ar gynnwys y cynnig a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 29 Gorffennaf 2019.
Cwestiynau Cyffredin
-
Pa gymorth sydd ar gael i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg?
Nid yw’r mwyafrif llethol o rieni sy’n anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Fro yn
siarad Cymraeg eu hunain. Dyna pam fod ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mro Morgannwg
wastad yn cyfathrebu gyda rhieni yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ym mron pob achos bydd
gwaith cartref yn cynnwys eglurhad Saesneg fel bod yr holl rieni’n gallu helpu eu plant
gyda’r gwaith. Hefyd, mae nifer o gylchoedd chwarae cyn-ysgol yn y Fro sy’n cael eu
rhedeg gan y sefydliad Mudiad Meithrin. Caiff addysg Gymraeg i oedolion ei hyrwyddo
ledled Bro Morgannwg hefyd gydag ystod o gyrsiau ar gael ar bob lefel o lefel dechreuwyr
i lefel hyfedredd. Ceir rhagor o wybodaeth o’r llyfryn ar fod yn ddwyieithog: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/Working/Education%20and%20Skills/
Admissions-Guide/Being-Bilingual-booklet-Welsh.pdf
-
Beth yw manteision addysg cyfrwng Cymraeg?
Mae plant dwyieithog yn tueddu i gyflawni’n uwch o fewn y cwricwlwm a pherfformio’n well mewn arholiadau. Mae dysgu ail iaith ar oedran cynnar yn helpu plant i ddatblygu clust ar gyfer ieithoedd ac yn rhoi mantais iddynt wrth ddechrau dysgu trydedd neu bedwaredd iaith wrth iddynt fynd yn hŷn. Yng Nghymru mae siarad Cymraeg yn sgil ar gyfer y gweithle, yn enwedig yn y sector cyhoeddus a’r sector gwasanaethau, ac yn sgîl newidiadau diweddar i’r gyfraith bydd ar fwy a mwy o gyflogwyr angen gweithlu dwyieithog. Mae dysgu trwy gyfrwng iaith arall yn helpu plant i ddatblygu mwy o sensitifrwydd i ddiwylliannau a chefndiroedd eraill. Mae siarad Cymraeg yn rhoi perthynas fwy clòs i bobl â hanes, treftadaeth a thraddodiadau Cymru.
-
Beth os wyf yn byw ar Lannau’r Barri ac yn dymuno anfon fy mhlentyn i addysg cyfrwng Saesneg?
Mae’r Cyngor wedi rhagfynegi nifer y disgyblion a fydd yn deillio o’r 900 o dai sydd i fod i gael eu hadeiladu ar ddatblygiad Glannau’r Barri. Byddir yn darparu ar gyfer y disgyblion hyn gan ddefnyddio’r lleoedd gwag presennol mewn ysgolion (gweler tablau 5 a 6). Fodd bynnag, rhagwelir y bydd diffyg bach o ran lleoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg erbyn 2022. Gellid ateb y galw hwn trwy ailasesu’r capasiti yn ysgolion cynradd Holton a Pharc Jenner. Dros y 5 mlynedd ddiwethaf cafwyd gwared ar gapasiti o ysgolion cynradd Holton a Pharc Jenner trwy ailneilltuo ystafelloedd. Roedd gan yr ysgolion leoedd gwag yn flaenorol y gellid trefnu eu bod ar gael i gynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Saesneg. Mae’r ddwy ysgol hon o fewn 2 filltir i ddatblygiad Glannau’r Barri. Wrth i’r galw am leoedd cyfrwng Cymraeg gynyddu, rhagwelir y bydd gostyngiad cyfatebol yn y galw am leoedd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae 11 o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ar gael yn yr ardal leol (radiws o 2 filltir) a gellir cael rhagor o wybodaeth yma: http://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/living/schools/admissions/primary/Primary-School-Admissions.aspx
-
Beth os na cheir y galw uwch am addysg cyfrwng Cymraeg?
Mae’r Cyngor yn hyderus bod digon o dystiolaeth i awgrymu y bydd y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i gynyddu, gan adlewyrchu strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru. Rhagwelir y bydd y gofyniad i hyrwyddo addysg ddwyieithog a chreu darpariaeth ychwanegol i gefnogi rhieni a disgyblion sy’n penderfynu pontio i addysg cyfrwng Cymraeg trwy ganolfan drochi neu ddarpariaeth debyg fel a nodir yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a natur ragweithiol hyn yn cynyddu’r nifer sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn y tymor hir. Byddai unrhyw leoedd gwag mewn ysgolion yn cael eu rheoli fel y byddent gydag unrhyw un o ysgolion neu asedau eraill y Cyngor.
-
Sut yr effeithir ar ddalgylchoedd gan y cynnig?
Mae holl drefniadau dalgylch ac ysgolion bwydo Bro Morgannwg yn destun adolygiad rheolaidd ac mae adolygiad eang wedi cael ei gynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19. Byddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn cael eu hadlewyrchu mewn ymgynghoriad ar drefniadau derbyn i’r ysgol yn y dyfodol.
-
Beth yw graddfa amser fwriadedig y datblygiad?
Bwriedir i’r gwaith adeiladu ddechrau ar safle newydd yr ysgol erbyn mis Ionawr 2020 a chael ei gwblhau erbyn mis Medi 2021. Y cynnig yw y byddai’r ysgol newydd yn agor erbyn mis Medi 2021.
-
A fydd ysgol feithrin yn y lleoliad?
Mae Ysgol Sant Baruc yn cynnig 48 o leoedd meithrin rhan amser ar hyn o bryd. O ganlyniad i’r ehangiad, bydd y cynnig yn cynyddu i 96 o leoedd meithrin rhan amser.
Ysgolian Cwblhawyd yr 21ain Ganrif ym Mro Morgannwg
(Ysgol Gynradd Oakfield 2015)
(Ysgol Bro Morgannwg 2014)
(Ysgol Gymraeg Dewi Sant 2015)
(Ysgol Gymraeg Dewi Sant 2015)
Manylion cyswllt