Ymgynghoriad Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr
Ymgynghoriad ar y cynnig i greu Ysgol Gynradd newydd â 420 o leoedd fel rhan o Gymuned Ddysgu Llanilltud Fawr drwy gyfuno Ysgolion Cynradd Easgleswell a Llanilltud Fawr
Mae'r Cyngor yn cynnig sefydlu Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr er mwyn gweddnewid cyfleoedd addysgol yn Llanilltud Fawr. Bydd Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr yn cael ei lleoli ar safleoedd presennol Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr, Ysgol Gynradd Llanilltud Fawr ac Ysgol Gymraeg Dewi Sant.
Bydd Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr yn cynnwys Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr a fydd wedi’i hailfodelu, ysgol gynradd newydd â 420 o leoedd a ffurfiwyd drwy gyfuno ysgolion cynradd Easgleswell a Llanilltud Fawr ac ehangu Ysgol Dewi Sant i ysgol â 210 o leoedd. Byddai’r tair ysgol ar yr un safle on byddant yn cadw’u hunaniaeth ar wahân ac yn elwa ar gyfleusterau a rennir.
Bydd y cynnig yn cwrdd â nodau rhaglen ysgolion yr 21ain Llywodraeth Cymru i greu:
- Amgylcheddau dysgu i blant a phobl ifainc rhwng 3-10 oed a fydd yn galluogi gweithredu strategaethau llwyddiannus ar gyfer gwella ysgolion a gwell canlyniadau addysgol;
- System addysg gynaliadwy drwy ddefnydd gwell o adnoddau er mwyn gwella effeithlonrwydd a chost effeithiolrwydd;
- Safon ysgolion yr 21ain ar gyfer pob ysgol sydd hefyd yn lleihau costau ailadroddus, defnyddio ynni a gollwng carbon.
Mae'r ymgynghoriad yn esbonio cynnig y Cyngor i greu ysgol gynradd newydd â 420 o leoedd fel rhan o Gymuned Ddysgu Llanilltud Fawr drwy gyfuno ysgolion cynradd Easgleswell a Llanilltud Fawr. Bydd Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr yn cwrdd â nodau Rhaglen Ysgolion yr 21ain Llywodraeth Cymru i alluogi'r ysgolion a'r gymuned i ddefnyddio ystod eang o gyfleusterau newydd.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o 16 Rhagfyr 2013 i 10 Chwefror 2014.
Sut gallaf i gaell rhagor o wybodaeth?
Gallwch lawrlwytho copi o'r llythyr a'r ddogfen ymgynghorol yn manylu ar y cynnig ac anfon eich barn yn y ffyrdd canlynol:
Sylwer oherwydd yr Arolygiad gan Estyn sydd ar ddod Yn Ysgol Gynradd Easgleswell mae’r dyddiad ar gyfer y sesiwn galw i mewn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn wedi newid o ddydd Llun 3 Chwefror i ddydd Gwener 7 Chwefror rhwng 3.15 a 6.00pm.
-
Llenwi’r profforma a geir o fewn y ddogfen ymgynghorol a’i dychwelyd i:
Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr
Gwasanaethau Cwsmeriaid Corfforaethol
Cyngor Bro Morgannwg
RHADBOST SWC2936
Y Barri
CF63 4GZ
Os oes gennych ymholiad nad yw'r wybodaeth a ddarperir yn ei ateb cysylltwch â ni:
neu ysgrifennwch at Gymuned Ddysgu Llanilltud Fawr, Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid, Cyngor Bro Morgannwg, RHADBOST SWC2936, Y Barri, CF63 4GZ.