Cyngor Bro Morgannwg yw’r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgolion. Caiff y trefniadau derbyn i gyd o fewn Bro Morgannwg eu hadolygu’n flynyddol.
Y capasiti ar gyfer cyfnod meithrin Ysgol Gynradd Evenlode ac Ysgol Gynradd Cogan fyddai 96 o leoedd rhan-amser. Ni fyddai’r cynigion hyn yn cael effaith ar y nifer derbyn ar gyfer cyfnod cynradd Ysgol Gynradd Evenlode nac Ysgol Gynradd Cogan.
Ni fyddai gan y plant ar y gofrestr yn y cyfnod meithrin hawl awtomatig i barhau eu haddysg yn yr un ysgol wrth symud i fyny i ddosbarth derbyn. Byddai angen i’r rhieni wneud cais ar gyfer yr ysgol o’u dewis. Pan fyddai mwy o geisiadau nag oedd o leoedd ar gael yn y dosbarth derbyn, câi’r lleoedd eu dyrannu drwy ddefnyddio meini prawf gordanysgrifio’r Cyngor sy’n rhoi blaenoriaeth i’r rheiny sy’n byw yn y dalgylch.