Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae Cyngor y Fro’n ymgynghori ar newid arfaethedig i drefniadau derbyn i ysgolion i ysgolion cymunedol ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/2022 o ran y newid dros dro a gynigir i ddalgylch Ysgol St Cyres am gyfnod o dair blynedd yn dechrau o 2022/23 a newid parhaol i ddalgylch Ysgol Dewi Sant. Nid oes newidiadau i’r polisi derbyn na’r meini prawf gordanysgrifio a ddefnyddir i gael mynediad i’r ysgolion.
Mae mwy o wybodaeth ar y cynnig i’w gael yn y dogfennau canlynol:
Yn ystod y cyfnod ymgynghori codwyd pryderon gan ysgolion uwchradd yn y Barri. O ganlyniad, gwnaed gwrthgynigion gan y tair ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg i weithio gyda'r Cyngor i reoli'r galw yn ardal y Barri. O ganlyniad i hyn, canlyniad yr ymgynghoriad hwn oedd diwygiad arfaethedig i'r cynnig cychwynnol fel a ganlyn;
Ystyriodd y Cyngor yn ofalus yr holl sylwadau a dderbyniwyd yn ei gyfarfod Cabinet ar 22 Mawrth 2021 ynghyd â'r diwygiad i'r cynnig cychwynnol. Cymeradwyodd y Cabinet y gwelliannau fel y disgrifir uchod i derfynu’r cynnig i sefydlu dalgylch deuol ar gyfer Ysgol St Cyres, cynnwys maen prawf ychwanegol ym meini prawf gordanysgrifio’r ysgol uwchradd i adlewyrchu trefniadau ysgolion bwydo blaenorol a newid dalgylch Ysgol Dewi Sant. Daw’r trefniadau yn rhan o’r polisi ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.
Gellir lawrlwytho’r polisi derbyn a llythyr i ysgolion neu mae copi caled ohono ar gael ar gais drwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau: