Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dyma'r Ymgyngoreion:
Mae'r trefniadau derbyn wedi'u diwygio i adlewyrchu'r newidiadau i'r gyfraith ar dderbyniadau o ganlyniad i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, nad ydynt wedi’u hadlewyrchu ar hyn o bryd yn y Cod Derbyn i Ysgolion. Ni chynigir unrhyw newidiadau eraill i'r trefniadau derbyn i ysgolion y cytunwyd arnynt y llynedd ar gyfer derbyniadau i ysgolion ym mlwyddyn academaidd 2022/2023.
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 4 Ionawr 2022 a 11 Chwefror 2022. Mae llythyr yr ymgynghoriad a’r polisi derbyn i ysgolion ar gael i’w lawrlwytho.
Penderfynodd Gabinet Cyngor Bro Morgannwg ar drefniadau derbyn y Cyngor ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 ar 22 Mawrth 2022. Daw’r trefniadau yn rhan o’r polisi ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Mae'r polisi derbyn a'r llythyr ar gael i'w lawrlwytho neu mae copïau caled ar Gael ar gais drwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau: