Hafan >
Byw >
Ysgolion >
Canolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y Nant
Canolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y Nant
Ymgynghoriad ar y cynnig i Greu Canolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y Nant o fis Medi 2024.
Cyflwyniad i’r cynnig
Ar 7 Mawrth, awdurdododd Cabinet y Cyngor y Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau i gynnal ymgynghoriad 10 Ebrill I 22 Mai 2024 ar y cynnig i greu Canolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y Nant erbyn Medi 2024.
Byddai'r cynnig yn creu darpariaeth addysgol cyfrwng Cymraeg arbenigol ar gyfer disgyblion 4-11 oed. Diben y ganolfan arbenigol hon fyddai cefnogi dysgwyr unigol yn ogystal â chynyddu capasiti'r ysgol gartref i greu amgylchedd cwbl gynhwysol lle rhoddir cyfle i bob dysgwr lwyddo a chael mynediad at addysg sy'n diwallu ei anghenion.
Byddai’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn cynnig cyfnodau o ddarpariaeth integredig i ddisgyblion sydd â diagnosis o gyflwr ar y sbectrwm awtistig a'r rhai sy'n profi anawsterau cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu reoleiddio sylweddol. Bydd hyn yn cynnwys disgyblion y mae eu lefel uchel o orbryder yn effeithio'n sylweddol ar eu gallu i gael mynediad at addysg prif ffrwd.
Nid oes angen cyllid cyfalaf i sicrhau bod y llety a nodwyd yn addas gan fod gwaith cyfalaf wedi'i gwblhau ar ôl nodi'r lle i'w ddefnyddio yn y dyfodol ar gyfer darpariaeth ADY fel rhan o Grant Cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol. Nid yw gweithredu'r cynnig yn gofyn am ddiwygiadau pellach i adeilad Ysgol Gwaun Y Nant.
Ymateb i’r ymgynghoriad
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 10 Ebrill I 22 Mai. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu hystyried pan fydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu ar y ffordd ymlaen.
Mae eich barn yn bwysig i ni, ac mae nifer o ffyrdd y gallwch ymateb i’r ymgynghoriad:
Canolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg Ysgol Gwaun y Nant
Cyngor Bro Morgannwg
Y Swyddfeydd Dinesig
Heol Holltwn
Y Barri
CF63 4RU
Bydd yr holl ymatebion ysgrifenedig a roddir i ni erbyn 22 Mai 2024 yn cael eu hystyried gan y Cabinet cyn iddo benderfynu p’un a ddylid cyhoeddi hysbysiad statudol ai peidio.
Dogfennau Ymgynghori