Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Ar 9 Gorffennaf 2020, fe gymeradwyodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor strategaeth i drawsnewid addysg arbennig ym Mro Morgannwg i ateb y galw a ragwelir yn y dyfodol ac i ddiwallu anghenion ein dysgwyr mwyaf agored i niwed yn y ffordd orau bosibl. Roedd y strategaeth yn nodi tri maes allweddol:
Fe wnaeth y Rheolwr Gyfarwyddwr awdurdodi’r Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau i gynnal ymgynghoriad o ddydd Llun 5 Hydref 2020 tan ddydd Gwener 20 Tachwedd 2020 ar gynnig i sefydlu canolfan adnoddau arbenigol yn Ysgol Uwchradd Whitmore.
I gael rhagor o wybodaeth am gamau’r broses ymgynghori statudol, gweler ein canllawiau defnyddiol.
Ar 8 Mawrth 2021, ystyriodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg yr holl ddogfennau perthnasol eraill a phenderfynodd gymeradwyo'r cynnig.Bydd y cynnig yn golygu y byddai darpariaeth addysgol arbenigol yn cael ei sefydlu yn Ysgol Uwchradd Whitmore ar gyfer disgyblion sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (CSA). Mae adeilad newydd yn cael ei godi ar hyn o bryd ar gyfer Ysgol Uwchradd Whitmore ar ei safle presennol. Dyrannwyd rhan o’r adeilad ar gyfer canolfan adnoddau arbenigol. Cynigir y byddai hyn yn canolbwyntio ar ddisgyblion CSA. Byddai’r ganolfan yn cael ei rheoli gan bennaeth a chorff llywodraethu Ysgol Uwchradd Whitmore. Mae’r ardal wedi’i dylunio i dderbyn hyd at 20 o ddysgwyr. Cynigir y caiff y ganolfan ei sefydlu fis Medi 2021.
Dogfen Ymgynghori
Gwybodaeth am yr Ysgolion
Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned
Arfarniad o’r Cyfraniadau at Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Adroddiad ar yr Ymgynghriad
Hysbysiad Statudol
Llythyr Penderfyniad
Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch ag aelod o dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif ar 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk.
Beth yw graddfa amser fwriadedig y datblygiad?
Mae’r adeilad ysgol newydd yn YUW i fod i gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2021.
Sut fyddai lle yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn cael ei ddyrannu i ddisgyblion?
Byddai’r Cyngor yn dyrannu disgyblion i’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol ar y cyd â thîm arwain YUW. Byddai hyn yn seiliedig ar asesiad o anghenion unigol y disgyblion.
Pwy fyddai’n rheoli ac yn cefnogi dysgwyr sy’n mynychu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol?
Byddai YUW yn cael cyllid ychwanegol ar gyfer y Ganolfan Adnoddau Arbenigol i sicrhau bod y cymorth priodol ar gael. Byddai’r ysgol yn penodi arweinydd i reoli’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol gyda staff ychwanegol yn cael eu penodi i gefnogi dysgwyr unigol. Diben y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yw rhoi cymorth i ddisgyblion i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at addysg brif ffrwd.
(Ysgol Oak Field, 2015)
(Ysgol Bro Morgannwg, 2014)