Cymorth gan yr Awdurdod Lleol
Bydd aelod o'r Tîm Cynhwysiant yn cysylltu â chi i gynnig cyfarfod neu ymweld â’r cartref er mwyn trafod yr adnoddau sydd ar gael i chi, ynghyd â dulliau dysgu a gwahanol gynlluniau gwaith y gellid eu defnyddio. Ar ôl yr ymweliad cychwynnol, cynigir cysylltiadau dilynol blynyddol wedyn i gefnogi eich darpariaeth addysg yn y cartref ac i asesu a ydych yn bodloni neu'n parhau i fodloni'r gofynion cyfreithiol o fod yn addas, yn effeithlon ac yn amser llawn.
Er eich bod chi fel rhieni yn cymryd cyfrifoldeb llawn am addysg eich plentyn, efallai y bydd rhai rhieni'n dewis cyflogi tiwtoriaid a gallwn roi cyngor ynglŷn â'r math hwn o drefniant.
Yn sgil grant diweddar gan Lywodraeth Cymru, rydym hefyd bellach yn gallu cynnig ystod o gymorth i ddysgwyr ADdC i'w helpu i fodloni'r rhwymedigaeth o ddarparu addysg addas amser llawn ac i helpu i sicrhau bod dysgwyr a addysgir yn y cartref yn gallu manteisio ar gymwysterau ffurfiol ac ystod o gymorth arall.