Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae hawl gan blant sy’n mynychu ysgol ym Mro Morgannwg ac y mae eu rhieni neu eu gofalwyr yn derbyn y budd-daliadau canlynol i dderbyn Prydau Ysgol Am Ddim.
Disgyblion sy’n derbyn Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Incwm yn eu rhinwedd eu hunain ac sydd hefyd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
Ni fyddwch yn gymwys i dderbyn Prydau Ysgol Am Ddim os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol a bod eich incwm net blynyddol a enillir trwy gyflogaeth neu hunangyflogaeth yn fwy na £7,400.
Gweinyddir Prydau Ysgol Am Ddim gan yr adran Budd-daliadau.
Lawrlwythwch ffurflen gais gan ei llenwi a’i dychwelyd i:
Prydau Ysgol Am Ddim
Adran Budd-daliadau
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holltwn
Y Barri
CF63 4RU
Neu ffoniwch ni ar 01446 709244 a byddwn yn postio ffurflen atoch.
Rhaid i chi roi gwybod i ni os bydd newid i’ch amgylchiadau's newid, gan gynnwys:
Bydd angen i chi gwblhau cais newydd hefyd os bydd eich plentyn yn dechrau'r ysgol am y tro cyntaf ac am unrhyw blant canlynol pan fyddant yn dechrau’r ysgol.
Os yw’ch plentyn yn mynychu ysgol y tu allan i Fro Morgannwg, bydd angen i chi hawlio Prydau Ysgol Am Ddim gan y Cyngor lleoliad yr ysgol.
Sylwch na allwch hawlio Prydau Ysgol Am Ddim mewn ysgolion preifat, ysgolion meithrin neu goleg.