Cost of Living Support Icon

Swyddi gwag i Lywodraethwyr Awdurdodau Lleol

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd Ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer swyddi gwag presennol fel llywodraethwyr ysgol Awdurdod Lleol (ALl).

 

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth y rhai yr hoffent gael eu hystyried ar gyfer y swyddi presennol i lywodraethwyr ysgol yr Awdurdod Lleol (ALl).  Bydd y Panel Penodi Llywodraethwyr ALl yn ystyried y ceisiadau ar sail y cyfraniad y mae modd i ymgeiswyr ei wneud i ysgol o ran eu sgiliau a'u profiad.

 

 

 Mae'r ffactorau i'w hystyried yn cynnwys: -

 

  • Profiad fel llywodraethwr ysgol effeithiol wedi ei fesur o ran meddu ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol gan gynnwys sgiliau sy'n cyd-fynd â heriau'r ysgol unigol.
  • Y cyfraniad a wneir yn ystod cyfnod yn y swydd a phresenoldeb rheolaidd.
  • Awydd gwirioneddol i helpu i wella safonau addysg o fewn yr ysgol mewn partneriaeth â'r pennaeth a gweddill y corff llywodraethu.
  • Gwybodaeth a diddordeb yn y gymuned y mae'r ysgol wedi'i lleoli ynddi.
  • Gwybodaeth am faterion addysg fodern.
  • Ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd corff llywodraethu llawn yn rheolaidd yn ogystal â chyfarfodydd unrhyw bwyllgorau o'r corff llywodraethu y maent yn cael eu hethol iddynt.
  • Ymrwymiad i fynychu cyrsiau hyfforddi llywodraethwyr i ddiweddaru eu sgiliau a'u gwybodaeth i wella eu gallu a'u heffeithiolrwydd fel llywodraethwr.

Sylwer na fydd yr Ysgolion Cymraeg yn cynnal eu holl gyfarfodydd yn Gymraeg a phan fydd hynny’n digwydd, bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael.

 

Os ydych yn teimlo y gallech fodloni’r meini prawf uchod ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael eich ystyried ar gyfer swydd llywodraethwr ALl yn un o’r ysgolion uchod, cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llywodraethwyr drwy e-bost yn governors@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 709125 (llinell uniongyrchol).