Gellir gwneud atgyfeiriadau trwy'r wefan:-
Gall y person ifanc, rhiant/gofalwr neu weithiwr proffesiynol wneud atgyfeiriadau trwy glicio ar y tab perthnasol, sgrolio i waelod y dudalen a chlicio ar y ddolen i gwblhau hunanatgyfeiriad neu atgyfeiriad rhiant/gofalwr/gweithiwr proffesiynol. Os ydych yn cwblhau atgyfeiriad ar ran plentyn, trafodwch hyn gyda nhw yn gyntaf a chael eu caniatâd.
Mae'r wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am y gwasanaeth i blant, pobl ifanc, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Unwaith y derbynnir yr atgyfeiriad, bydd cwnselydd yn gwahodd y person ifanc i sesiwn asesu cyn gynted ag y bydd lle ar gael. Os yw'r person ifanc wedi gofyn am gael ei weld yn yr ysgol, bydd hyn yn cael ei wneud heb dynnu sylw i sicrhau cyfrinachedd. Os yw'r person ifanc wedi gofyn am gael ei weld yn y Gymuned, bydd y cwnselydd fel arfer yn cysylltu â'r rhiant/gofalwr i drefnu hyn.
Gall plant a phobl ifanc hefyd siarad ag aelod dibynadwy o’r staff yn eu hysgol. Gallai hyn fod yn diwtor dosbarth, Pennaeth Blwyddyn neu aelod o'r tîm gofal bugeiliol; gallant eu helpu i gwblhau atgyfeiriad ar-lein neu ddarparu ffurflen atgyfeirio ar bapur y gellir ei phostio trwy flwch post Barnardo’s yn eu hysgol.
Gall plant a phobl ifanc atgyfeirio i'r gwasanaeth heb fod angen caniatâd eu rhiant/gofalwr. Fodd bynnag, ar gyfer plant Blwyddyn 6, a fyddai angen defnyddio'r gwasanaeth yn y Gymuned, byddai rhiant/gofalwr yn dod â'u plentyn i sesiynau.
Angen help nawr? Nid gwasanaeth argyfwng neu frys yw hwn. Os ydych chi'n poeni am eich person ifanc, yn y lle cyntaf cysylltwch â'ch meddyg teulu, ar gyfer ymholiadau y tu allan i oriau cysylltwch â Galw Iechyd Cymru 111. Fel arall, os ydych chi'n teimlo ei fod yn argyfwng, gallwch fynd â'ch person ifanc i'ch adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf.