Pwy all gwneud cais
Mae’r grant ar gael i ddisgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim neu sy’n blant sy’n derbyn gofal ac sy’n:
- Dosbarth derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 2, Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5 neu Flwyddyn g ysgol gynradd a gynhelir ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd
- Blwyddyn 7, Blwyddyn 8, Blwyddyn 9, Blwyddyn 10 neu Flwyddyn 11 ysgol gynradd a gynhelir ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd
- Yn y dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 2, Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5, Blwyddyn 6, Blwyddyn 7, Blwyddyn 8, Blwyddyn 9, Blwyddyn 10, Blwyddyn 11 neu gyfatebol mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbenigol neu uned cyfeirio disgyblion.
Nid yw’r grant ar gael i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion preifat.
Mae’r arian hefyd ar gael i’r holl blant sy’n derbyn gofal o oedran ysgol gorfodol.
Rhaid bod y rhiant/gwarcheidwad sy’n gwneud y cais fod yn cael un o'r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Incwm
- Lwfans Cymorth Cyflogaeth ar sail incwm (ESAIR)
- Credyd Treth Plant, gydag incwm cartref o £16,190 neu lai
- Credyd Pensiwn (elfen gwarant)
- Credyd Cynhwysol ag enillion net y cartref yn is na £7400 y flwyddyn
Nid yw Credyd Treth Gwaith yn fudd-dal cymhwyso ac os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith ni fyddwch yn gymwys i gael Grant Datblygu Disgybl hyd yn oed os ydych yn ei gael ynghyd ag un o’r incymau uchod.