Mynychu’r Ganolfan Iaith
Bydd dysgwyr yn treulio cyfnod o 12 wythnos (ddim yn cynnwys gwyliau ysgol) yn y Ganolfan Iaith, o ddydd Llun i ddydd Iau. Bydd y plant yn mynychu’r ysgol ble mae wedi’u cofrestru pob dydd Gwener yn ystod y cyfnod hwn. Bwriad hynny yw gofalu am les y plant wrth sicrhau eu bod yn derbyn cyfleoedd priodol i ddod i adnabod eu cyd-ddysgwyr ac athrawon.
Cyrraedd y Ganolfan Iaith
Lleolir y Ganolfan Iaith yn Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant, yn Y Barri.
Canolfan Iaith Ysgolion Bro Morgannwg,
Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant,
Amroth Court, Caldy Close, Y Barri, CF62 9DU
Gallwch gludo eich plentyn eich hunain i’r Ganolfan Iaith, neu fanteisio ar wasanaeth tacsi a drefnir gan adran drafnidiaeth y Sir. Gofynnwn yn garedig i rieni/warchodwyr roi gwybod sut maent yn bwriadu i’w plentyn deithio. Cynigiwn ad-dalu eich costau milltiredd petrol, os yn gymwys.
Amserlen y dydd
Bydd dysgwyr yn y Ganolfan rhwng 9yb a 3yh o ddydd Llun i ddydd Iau.
Sesiwn y Bore
Mae yna amser egwyl yn ystod sesiwn y bore rhwng 10.15yb a 10.30yb.
Amser Cinio
Gall eich plentyn dderbyn cinio ysgol neu mae croeso i’ch plentyn ddod a phecyn bwyd i’r ysgol. Rydyn ni hefyd yn annog eich plentyn i ddod a photel dŵr a ffrwyth gydag ef/hi i’r Ganolfan Iaith.
Sesiwn y Prynhawn
Mae yna amser egwyl yn ystod sesiwn y prynhawn rhwng 1.45yh a 2yh.