Canllaw i Rieni ar Dderbyniadau Ysgolion
Caiff derbyn plant i ysgolion cynradd ei reoli a’i weinyddu gan ‘Awdurdod Derbyn’. Ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir, Cyngor Bro Morgannwg yw’r awdurdod hwn. Ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir ac Ysgolion Sefydledig, yr Awdurdod Derbyn yw’r Corff Llywodraethu.
Bydd derbyniadau i ysgolion cynradd yn cael eu cyflwyno fel arfer os nad yw rhif derbyn yr ysgol wedi’i gyrraedd. Pan fo nifer y ceisiadau ar gyfer derbyn i ysgol yn fwy na nifer y llefydd sydd ar gael, h.y. pan fo rhif derbyn wedi'i gyrraedd, bydd llefydd yn cael eu dyrannu drwy ddefnyddio meini prawf derbyn cydnabyddedig.
Trefniadau Derbyn Cydlynol
Mae cyrff llywodraethu Ysgol Gynradd All Saint's C.W, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llansannor, Ysgol Gynradd St Andrew, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Saint y Brid, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseph's R.C ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Wig a Marcroes wedi cytuno i gymryd rhan yn y cynllun. Hefyd gall Ysgolion Cymunedol Bro Morgannwg nawr hefyd ymgeisio am leoedd yn yr ysgolion hyn drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ymgeisio ar-lein fel y nodir uchod. Sicrhewch eich bod wedi darllen a deall y meini prawf derbyn ar gyfer pob ysgol yr ydych yn ymgeisio amdanynt.
• Ysgol Gynradd All Saint's C.W
Yn achos ysgolion ble mae corff llywodraethol yr ysgol yw’r awdurdod derbyn, cynghorir rhieni i gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol. Ym Mro Morgannwg yr ysgolion hynny ydy (dolenni i wefannau allanol yr ysgolion yw’r rhain, ac maent yn Saesneg): Ysgol Gynradd St Helens R.C a Pendoylan C/W.