Dyddiadau Allweddol
Symud i’r Ysgol Uwchradd ym mis Medi 2025
Dyddiad Agor: 20 Medi 2024
Dyddiad Cau: 22 Tachwedd 2024
Dyddiad y cynnig: 03 Mawrth 2025
Gallwch wneud cais am le mewn ysgol uwchradd ar-lein pan fydd mynediad ar agor.
Llythyr cais uwchradd 2025
Canllaw Rhieni i Dderbyniadau i Ysgolion 2025-26
Gwnewch Gais Nawr
Defnyddiwch y system ceisiadau ysgol ar-lein i:
- Greu cyfrif, os nad oes un gennych eisoes
- Gwneud cais newydd
- Parhau gyda chais rydych wedi'i gadw
- Gweld eich cais
- Gweld eich cynigion am le mewn ysgol
Gwnewch gais ar amser. Gallwch weld dyddiadau pwysig un ystod y broses ymgeisio ar gyfer lle mewn ysgol isod. Os byddwch yn methu'r dyddiad cau, ni allwch wneud cais hwyr ar-lein. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais hwyr ar bapur. Gallai colli’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais effeithio’n sylweddol ar eich cyfle i gael y lle rydych yn ei ddymuno.
Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried yn y rownd gyntaf o ddyraniadau ar y dyddiad cynnig a gyhoeddir. Bydd llawer o ysgolion yn cael eu tanysgrifio'n llwyr ar ôl y rownd gyntaf, felly mae'n bwysig cyflwyno'ch cais ar amser i gael y cyfle gorau i sicrhau lle yn eich ysgol ddewisol. Yn dilyn y rownd gyntaf o ddyraniadau, caiff pob cais hwyr ei ystyried ynghyd ag unrhyw blant sydd ar y rhestr aros.
Trafnidiaeth Ysgol
Mae gan Awdurdodau Addysg Lleol ddyletswydd statudol i ddarparu cludiant ysgol am ddim i ddisgyblion o oedran ysgol statudol sy'n byw y tu hwnt i bellter cerdded i'r ysgol addas agosaf.
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol, fel arfer rhoddir caniatâd i deithio ar gerbyd contract os oes un yn gwasanaethu eich ardal. Mewn achosion eraill bydd tocyn bws yn cael ei ddarparu i deithio ar y rhwydwaith gwasanaeth.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn darparu cludiant ysgol am ddim ar gyfer:
• Disgyblion oedran cynradd sy'n byw dwy filltir neu ymhellach o'u hysgol dalgylch ddynodedig agosaf o'u math
• Disgyblion oedran uwchradd sy'n byw tair milltir neu ymhellach o'u hysgol ddalgylch ddynodedig agosaf o'u math
• Mesurir pellteroedd yn ôl y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael a bydd angen i ddisgyblion fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol os oes angen
Llinell Amser y Broses Ymgeisio – Dyddiadau allweddol ar gyfer Derbyn i Ysgolion Uwchradd
Dyddiad
|
Y cam yn y broses ymgeisio
|
20 Medi 2024
|
Y broses o wneud cais i ddechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2025 yn cychwyn.
|
22 Tachwedd 2024
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Bydd angen cyflwyno unrhyw geisiadau a gwblheir ar ôl y dyddiad hwn ar bapur neu drwy e-bost a chânt eu hystyried fel ceisiadau hwyr
|
Tachwedd 2024 – Mawrth 2025
|
Caiff pob cais ei brosesu a'i asesu yn erbyn meini prawf gordanysgrifio derbyn i ysgolion uwchradd. Byddwn yn gwirio eich manylion cyfeiriad ac unrhyw wybodaeth ategol a roddir i ni.
|
03 Mawrth 2025
|
Dyddiad Cynnig. Byddwn yn anfon hysbysiad trwy e-bost neu lythyr os ydych wedi gofyn iddo gael ei anfon drwy'r post.
|
Mawrth 2025
|
Llunio rhestrau aros
|
17 Mawrth 2025
|
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb rhieni i'r lle a gynigir. Sicrhewch eich bod yn derbyn neu'n gwrthod y lleoliad a gynigir i'ch plentyn.
|
Ebrill 2025
|
Mae ceisiadau (hwyr a cheisiadau ail ddewis) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.
|
Ebrill/Mai 2025
|
Mae canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen.
|
Medi 2025
|
Plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.
|
St Richard Gwyn i gymryd rhan mewn Cynllun Peilot Trefniadau Derbyn Cydgysylltiedig
Yn dilyn cyflwyno cynllun peilot ar gyfer trefniadau derbyn cydgysylltiedig ar gyfer trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd Medi 2021, mae corff llywodraethu Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn wedi cytuno i gymryd rhan yn y cynllun am bedwaredd flwyddyn ar gyfer proses ymgeisi 2025.
Yn ogystal ag Ysgolion Cymunedol Bro Morgannwg gallwch nawr wneud cais am le yn Ysgol Uwchradd St Richard Gwyn R.C drwy ddefnyddio'r gwasanaeth ymgeisio ar-lein fel y nodir uchod. Sicrhewch eich bod wedi darllen a deall yn glir y meini prawf derbyn ar gyfer yr ysgol yr ydych yn gwneud cais amdani.
Ysgol Stanwell
Daeth Ysgol Stanwell yn ysgol gymunedol a gynhelir o fis Medi 2024. Mae hyn yn golygu mai’r Cyngor fydd yr awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol. Bydd angen gwneud pob cais drwy Broses Derbyniadau Ar-lein y cyngor.
O ganlyniad i newid statws Ysgol Stanwell o Ysgol Sefydledig i Ysgol gymunedol a gynhelir o fis Medi 2024, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sefydlu trefniadau pontio ar gyfer y plant hynny a oedd yn mynychu un o ysgolion cynradd bwydo dynodedig Stanwell cyn y newid statws. Yr ysgolion bwydo dynodedig yw ysgolion cynradd Albert, Evenlode, Sili a Victoria. Mae’r trefniadau pontio hyn bellach yn rhan o bolisi derbyniadau’r Cyngor. Bydd y cyngor yn cadw’r cysylltiad ysgolion cynradd bwydo i Stanwell ar gyfer y plant hynny sy'n mynychu ysgol gynradd fwydo ddynodedig yn ystod blwyddyn academaidd 2023/2024. Byddai pob plentyn o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 mewn ysgol fwydo ddynodedig yn ystod blwyddyn academaidd 2023/2024 yn cadw eu statws bwydo. Nid yw'r trefniadau pontio a'r cyswllt ysgol fwydo yn berthnasol i blant sy'n dechrau yn ysgolion cynradd Albert, Evenlode, Sili a Victoria o fis Medi 2024 ymlaen. Yn yr achosion hyn, byddai meini prawf gordanysgrifio y Cyngor yn berthnasol.
Bydd y trefniadau pontio yn dod i ben ar gyfer proses drosglwyddo blwyddyn 6 i addysg Uwchradd ym mis Medi 2030 pan fydd y plentyn olaf sy’n gymwys o dan drefniadau pontio yn gadael ei ysgol gynradd fwydo.