Sut ydym yn agosáu at ddyfodol di-garbon yn adeiladau ein hysgolion?
Mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd, addasodd Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy’r Fro eu harferion adeiladu i gyfrannu at y targed sero-net fel rhan o Fand B y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, gan ymrwymo bod pob ysgol newydd o 2022 yn garbon isel (mewn-ddefnydd/gweithredol) o leiaf, lle mae lleoliad y datblygiad yn cyfyngu ar y gallu i fod yn sero-net (carbon mewn-defnydd/gweithredol).
Camau tuag at sicrhau adeilad (gweithredol) carbon sero-net:
Lleihau'r defnydd o ynni gweithredol
Dylid blaenoriaethu gostyngiadau yn y galw am ynni a'r defnydd ohono dros bob mesur
Cynyddu ffynonellau ynni adnewyddadwy
Dylid blaenoriaethu ffynhonnell ynni adnewyddadwy ar y safle
Cydbwysedd di-garbon
Dylid gwrthbwyso unrhyw garbon sy'n weddill drwy brynu ynni adnewyddadwy oddi ar y safle
Mesur a dilysu
Rhaid rhoi gwybod am y defnydd blynyddol o ynni a’r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar y safle a'i ddilysu'n annibynnol bob blwyddyn am y pum mlynedd gyntaf
Roedd y dull o sicrhau adeilad gweithredol carbon sero-net yn seiliedig ar y fframwaith a amlinellwyd yn nogfen Cyngor Adeiladu Gwyrdd y DU: Adeiladau Carbon Sero-Net: Diffiniad Fframwaith
Er gwaethaf ystyriaeth ofalus i ddewis deunyddiau sy'n gwneud y mwyaf o'r ymagwedd ‘deunydd yn gyntaf’ (lle mae waliau, to, ffenestri a drysau thermol effeithlon yn lleihau colli ynni ac yn arbed ar yr ynni sydd ei angen i wresogi'r adeilad) ac sy’n hawdd eu hadeiladu a'u cynnal, roedd y Cyngor am fynd â'r prosiect ymhellach i fynd i'r afael â charbon ymgorfforedig.
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithio gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant adeiladu i ddatblygu cynllun ysgol y gellir ei addasu a'i addasu yn ól gradd sy'n garbon (gweithredu) sero-net ac yn garbon ymgorfforedig isel.Drwy hyn, edrych ar y deunyddiau a'r carbon ymgorfforedig y mae'r rhain yn ei gynnwys ac elfennau fel cludiant i'r safle.