Pam mae diogelu a gwella ecoleg yn bwysig?
Yn syml, mae ecoleg yn cyfeirio at y berthynas a'r rhyngweithio rhwng organebau a'u hamgylchedd. Os yw ecosystem yn iach, mae cydbwysedd o ran y rhyngweithio hwnnw, sy'n golygu y gall planhigion ac anifeiliaid ffynnu. Pan fydd ecosystemau'n ffynnu ac yn llawn rhywogaethau amrywiol, gall fod manteision i bobl, fel aer a dŵr glanach, gan greu mannau hamdden ac ymlacio croesawgar, a helpu i atal llifogydd lleol.
O lefel leol i fyd-eang, mae ein hecosystemau'n cael eu bygwth gan newid yn yr hinsawdd, gorgloddio a defnydd gormodol ar adnoddau felly mae angen i bob un ohonom helpu i wella'r ecosystemau hyn lle bynnag y bo modd. Gall gwaith adeiladu yn arbennig gael effaith negyddol wrth iddo gael ei wneud ac ar ôl iddo gael ei wneud os na rhoddir camau gofalus ar waith i ddiogelu'r bywyd gwyllt a'r cynefinoedd o fewn y safle a'r cyffiniau.
Heb ecosystemau lleol iach byddwn ni’n colli rhai o'n rhywogaethau mwyaf annwyl o fewn cenhedlaeth; gan gynnwys y draenog, y durtur, y wiwer goch a gwiberod.
Mae gwella cynefinoedd yn un o'n mesurau cynaliadwyedd i gyrraedd safon Rhagoriaeth BREEAM. Mae hyn hefyd yn ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau fel corff cyhoeddus dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 drwy ddiogelu a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau sy'n gweithio'n iach.
Felly, am yr holl resymau hyn mae'n bwysig diogelu a gwella ecoleg cymaint â phosibl o fewn ein safleoedd.