Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Yn hytrach na’n bod ni’n trefnu gwasanaeth ar eich rhan, byddwch chi’n derbyn taliad arian parod. Gallwch chi ddefnyddio’r arian hwn i drefnu’r math o gefnogaeth rydych chi’n ei ffafrio, gan roi mwy o ddewis, rheolaeth a hyblygrwydd i chi ynghylch diwallu eich anghenion.
Gallai’r grwpiau o bobl isod dderbyn Taliadau Uniongyrchol, yn dilyn asesiad anghenion gan reolydd achos:
Gallwch chi ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis cyflogi Cynorthwyydd Personol, ond nid dyma’r unig ffordd o’u defnyddio. Gallech chi benderfynu trefnu cytundeb ag asiantaeth, neu gyfuno’r ddwy elfen uchod.
Gellir defnyddio Taliadau Uniongyrchol hefyd i dalu am ofal preswyl tymor hir neu ofal nyrsio. Ni allwch ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol i dalu am wasanaethau sy’n cael eu hariannu gan y Cyngor (fel rhai canolfannau dydd).
"Mae e’n magu hyder i gynllunio ymlaen llaw a rhoi cynnig ar bethau newydd. Mae wedi gwella ansawdd ei fywyd yn sylweddol." "Rydw i’n fwy na bodlon – mae gen i bob cefnogaeth sydd ei angen arna i." "Mae popeth wedi gweithio’n dda i ni gyda chymorth ein Cynghorydd Byw’n Annibynnol." "Yn ddiweddar, defnyddiais asiantaeth gofal oherwydd salwch fy Nghynorthwyydd Personol, felly rwy’n gwerthfawrogi system Taliadau Uniongyrchol a’r rhyddid mae’n ei rhoi i mi gyflogi fy staff fy hun."
"Mae e’n magu hyder i gynllunio ymlaen llaw a rhoi cynnig ar bethau newydd. Mae wedi gwella ansawdd ei fywyd yn sylweddol."
"Rydw i’n fwy na bodlon – mae gen i bob cefnogaeth sydd ei angen arna i."
"Mae popeth wedi gweithio’n dda i ni gyda chymorth ein Cynghorydd Byw’n Annibynnol."
"Yn ddiweddar, defnyddiais asiantaeth gofal oherwydd salwch fy Nghynorthwyydd Personol, felly rwy’n gwerthfawrogi system Taliadau Uniongyrchol a’r rhyddid mae’n ei rhoi i mi gyflogi fy staff fy hun."
Taflen Taliadau Uniongyrchol
01446 704203
01443 827930
Os nad oes gweithiwr cymdeithasol gennych chi, dylech chi gysylltu â Chyswllt UnFro. Byddan nhw’n trefnu asesiad i chi. Rhaid cynnal asesiad cyn y gellir gwneud Taliadau Uniongyrchol.