Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae dwy ran i Gredyd Pensiwn:
Ychwanegiad i’ch incwm wythnosol fel eich bod yn derbyn yr isafswm.
Ychydig o arian ychwanegol os oes gennych gynilion neu os yw eich incwm yn uwch na Phensiwn y Wladwriaeth sylfaenol.
Efallai y byddwch yn gymwys am un neu'r ddwy ran.
Yn ogystal ag incwm ychwanegol, mae'r taliad yn datgloi ystod o hawliau eraill i'r rhai sy'n gymwys, gan gynnwys:
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Help gyda chostau tai
Triniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG
Help tuag at gost sbectol
Help tuag at gostau trafnidiaeth i’r ysbyty
Taliadau tywydd oer
Trwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael hawliau ariannol ychwanegol gan gynnwys Ychwanegiad Gofalwr ac Ychwanegiad Anabledd Difrifol.
Does gennych chi ddim byd i'w golli drwy wneud cais, a hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich gwrthod o'r blaen, mae bob amser yn werth gwneud cais newydd bob blwyddyn. Mae cyfraddau budd-daliadau yn newid bob blwyddyn, yn ogystal â'ch cyllid.
Mae cefnogaeth am ddim gyda’r broses ymgeisio ar gael gan amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Age Cymru, Age Connects a Cyngor ar Bopeth.
Credyd Pensiwn: Gwneud Cais Ar-lein - GOV.UK (www.gov.uk)
Anfonwch eich ffurflen wedi'i chwblhau i:
The Pension Service 8,
Post Handling Site B,
Wolverhampton,
WV99 1AN