Cost of Living Support Icon

Diogelu Oedolion

Ydych chi’n poeni am oedolyn?

Mae Tîm Diogelu Oedolion Bro Morgannwg yn ymateb i adroddiadau Diogelu a phryderon a fynegwyd mewn perthynas ag Oedolion mewn Perygl.

 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn diffinio oedolyn mewn perygl fel oedolyn:

 

  • Sy’n dioddef camdriniaeth neu esgeulustod

  • Sydd ag anghenion gofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod lleol yn bodloni unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), ac

  • Nad yw’n gallu, o ganlyniad i’r anghenion hynny, amddiffyn ei hun rhag cael, neu fod mewn perygl o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.

Pwy sy’n oedolyn mewn perygl?

Gall y mathau o unigolion y gellid eu hystyried yn oedolyn mewn perygl gynnwys person:

  • Sy’n oedrannus ac yn eiddil oherwydd salwch, anabledd corfforol, neu nam gwybyddol

  • Sydd ag anabledd dysgu

  • Sydd ag anabledd corfforol a/neu nam synhwyraidd

  • Sydd ag anghenion iechyd meddwl

  • Sydd â salwch neu gyflwr hirdymor

  • Sy’n camddefnyddio sylweddau neu alcohol

  • Sad yw'n gallu gwneud penderfyniad ac sydd angen gofal a chymorth

  • Sad yw’n gallu cyfathrebu

Beth yw Camdriniaeth / Esgeulustod?

Gall camdriniaeth fod yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol, yn emosiynol, yn ariannol, yn wahaniaethol, yn sefydliadol a gall ddigwydd mewn unrhyw leoliad.

 

Ystyr esgeulustod yw methiant i fodloni anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy'n debygol o arwain at amharu ar les y person, a gall ddigwydd mewn ystod o leoliadau. Gall hyn hefyd gynnwys hunan-esgeulustod.

 

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr a gall meysydd eraill o gamdriniaeth neu esgeulustod gynnwys caethwasiaeth fodern, cam-drin domestig, anffurfio organau cenhedlu benywod, a chamfanteisio.

Pwy all fod yn gamdriniwr?

Gallai camdriniwr fod yn:

  • Ffrind

  • Aelod o'r teulu

  • Gweithiwr proffesiynol

  • Gwirfoddolwr

  • Cymydog

  • Gweithiwr gofal

  • Masnachwr

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n poeni?

Os ydych yn cael eich cam-drin neu mewn perygl o niwed neu'n poeni y gallai rhywun rydych yn ei adnabod fod mewn perygl o niwed, dylech siarad â rhywun amdano cyn gynted â phosibl a phan fydd yn ddiogel gwneud hynny, gall hyn gynnwys siarad â'r unigolyn rydych yn amau y mae’n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso (dim ond os yw'n ddiogel ac yn briodol gwneud hynny).

 

Os oes angen cymorth ar unwaith, ffoniwch 999 yn ddi-oed. Os yw trosedd wedi'i chyflawni ond nad oes angen cymorth ar unwaith, ffoniwch 101.

 

Gellir cysylltu â Thîm Diogelu Oedolion Bro Morgannwg o ddydd Llun i ddydd Iau, 8:30am – 5pm, ac ar ddydd Gwener, 8:30 – 4:30pm:

 

Byddant yn hapus i drafod eich pryderon.

 

Y tu allan i oriau gwaith ac mewn argyfwng, cysylltwch â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng y tu allan i oriau:

Pryderon mewn perthynas ag ymarferwyr neu'r rhai sydd mewn swydd gyfrifol (Adran 5)

Mae gennym ddyletswydd i reoli honiadau a phryderon ynghylch unrhyw berson sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac oedolion mewn perygl yn eu hardal. Mae rhai swyddi sy'n cynnwys person yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant neu oedolion mewn perygl yn golygu ei fod yn cael ei ystyried yn Ymarferydd/Person mewn Swydd Gyfrifol. Mae hyn yn cynnwys staff Cyngor, staff asiantaethau partner, darparwyr gwasanaethau a gwirfoddolwyr.

 

Rhaid i ni gael gwybod pan fo pryderon bod person sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion mewn perygl:

  • Wedi ymddwyn mewn ffordd sydd wedi niweidio plentyn neu oedolyn mewn perygl, neu y gallai fod wedi gwneud hynny

  • O bosibl wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn neu oedolyn mewn perygl neu sy’n cael effaith uniongyrchol ar y plentyn neu’r oedolyn mewn perygl

  • Wedi ymddwyn tuag at blentyn, plant neu oedolion mewn perygl mewn ffordd sy’n awgrymu ei fod yn anaddas i weithio gyda phlant ac oedolion

Gwybodaeth i Ymarferwyr / Gweithwyr Proffesiynol

Os ydych yn ymarferydd/gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gydag oedolion mewn perygl a bod gennych achos rhesymol dros amau bod rhywun yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ei fod mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, rhowch wybod i'r tîm diogelu oedolion. Cwblhewch y Ffurflen Dyletswydd i Adrodd Oedolyn mewn Perygl Diogelu Oedolion (AS1) isod.

 

Yn y cyfamser, cymerwch ba bynnag gamau rydych yn teimlo eu bod yn briodol i ddiogelu'r unigolyn a chofnodi'ch penderfyniadau a'ch camau gweithredu’n gywir.

 

Gellir cysylltu â Thîm Diogelu Oedolion Bro Morgannwg o ddydd Llun i ddydd Iau, 8:30am – 5pm, ac ar ddydd Gwener, 8:30 – 4:30pm:

 

Y tu allan i oriau gwaith ac mewn argyfwng, cysylltwch â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng y tu allan i oriau:

 

Os oes angen cymorth ar unwaith, ffoniwch 999 yn ddi-oed. Os yw trosedd wedi'i chyflawni ond nad oes angen cymorth ar unwaith, ffoniwch 101.

 

I gael arweiniad, cyfeiriwch at weithdrefnau Diogelu Cymru: 

 

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Ffurflen Dyletswydd i Adrodd Oedolyn mewn Perygl Diogelu Oedolion (AS1)     

 Canllaw ar Gwblhau AS1