Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Bydd Asesiad Anghenion Gofalwyr yn edrych ar ba gymorth sydd ei angen arnoch fel gofalwr di-dâl, p'un a ydych yn barod neu'n gallu parhau i ofalu, yr hyn rydych am ei gyflawni mewn bywyd ac a ydych yn gymwys i gael help gan y gwasanaethau cymdeithasol, neu y gellir diwallu eich anghenion drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.
Nid yw Asesiad Anghenion Gofalwyr yn gwirio i weld sut neu pam rydych yn gofalu. Mae'n ystyried cryfderau personol a’r cymorth sydd ar gael gan aelodau o'r teulu, ffrindiau ac eraill yn y gymuned. Bydd hefyd yn ystyried a ydych chi'n gweithio neu'n dymuno gweithio, ac a ydych chi am gymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu weithgareddau hamdden.
Mae darganfod beth yw anghenion person yn dechrau gyda sgwrs. Yn ystod y sgwrs hon, byddwn yn gofyn beth sy'n bwysig i chi.
Byddwn yn gofyn i chi:
Mae yna feini prawf cymhwystra cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth i oedolion, plant a gofalwyr. Mae 4 maen prawf y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i’r angen fod yn gymwys. Mae tabl meini prawf ar gyfer oedolion, gofalwyr a phlant. Mae hawl awtomatig i gymhwystra i’r rheiny sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
Rhoddir cymhwystra i angen nid i berson ac nid yw'n ymwneud â hawl i wasanaeth.
Caiff ei gymhwyso i warantu mynediad at ofal a chymorth i'r rheiny na allant gyflawni eu deilliannau personol hebddo.
Bydd rhai anghenion efallai’n cael eu diwallu drwy gynllun gofal a chymorth, ac eraill drwy fynediad at wasanaethau cymunedol.
Gallai gwasanaethau cymunedol gynnwys y rhai a ddarperir gan sefydliadau’r sector cyhoeddus, preifat, a’r 3ydd sector, yn ogystal â grwpiau cymunedol, teulu a ffrindiau.
Os na all darparu gofal a chymorth helpu’r unigolyn i gyflawni ei ddeilliannau, ni fydd cymhwystra yn berthnasol.
I wneud cais am asesiad cynhalydd, cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt:
Neges destun: C1V wedyn eich neges i 60066
Linell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf y Fro:
Browser does not support script.