Diogelu Oedolion. Ydych chi’n poeni am oedolyn?
Mae Tîm Diogelu Oedolion Bro Morgannwg yn ymateb i adroddiadau Diogelu a phryderon a fynegwyd mewn perthynas ag Oedolion mewn Perygl:
Diogelu Oedolion
Diogelu Plant. Adrodd am Broblem
Os credwch fod plentyn mewn perygl ar unwaith o gael niwed, cysylltwch â’r heddlu ar 999. Os credwch fod plentyn mewn perygl, neu ddim yn derbyn gofal cywir, neu bod gennych bryder am ei les/lles:
Amddiffyn Plant
Cwynion a Chanmoliaeth
Mae gwasanaethau cymdeithasol Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod pethau'n mynd o chwith weithiau, ac felly’n methu â chyrraedd ein safon ddisgwyliedig:
Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol
Profiad Cleifion: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Di-dâl
Iechyd Meddwl
Llais y Gofalwyr
Mae Llais Cymru yma i sicrhau bod eich barn a'ch profiadau yn cael eu defnyddio gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell. A phan fydd pethau'n mynd o'i le, gall eu heiriolwyr cwynion annibynnol a hyfforddedig eich cefnogi i wneud cwynion:
Llais Cymru
Porth Eiriolaeth Caerdydd a'r Fro
Porth Eiriolaeth Caerdydd a'r Fro (PECF) yw'r prif bwynt mynediad i unigolion sydd yn chwilio am gymorth eiriolaeth yn ardal Caerdydd a'r Fro. Bwriad PECF yw cysylltu ag unigolion a gweithwyr proffesiynol gydag eiriolwr cymwysedig sydd yn amddiffyn hawliau ac yn mynegi barn, dymuniadau a theimladau.
Porth Eiriolaeth Caerdydd a'r Fro
Comisiynydd Pobl Hyn Cymru
Mae’r Comisiynydd yn gweithio dros Gymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda:
Comisiynydd Pobl Hyn Cymru
Comisiynydd Plant Cymru
Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru. Dechreuodd Rocio Cifuentes fel Comisiynydd ym mis Ebrill 2022. Hi fydd y Comisiynydd Plant am saith mlynedd.
Comisiynydd Plant Cymru
Isod ceir manylion sefydliadau cenedlaethol i ofalwyr, sy'n rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru:
Yn rhoi cyngor a gwybodaeth i ofalwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi gofalwyr:
Gofalwyr Cymru
Yn darparu llais cenedlaethol i rymuso rhieni a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu:
Fforwm Cymru Gyfan
Wedi ymrwymo i wella cymorth a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl:
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Mae Dewis Cymru’n wefan sydd â’r nod o helpu pobl i gael gafael ar wasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol yng Nghymru a dod o hyd i'r wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt i wella eu lles:
Dewis Cymru