Cost of Living Support Icon

Digwyddiadau a hyfforddiant i ofalwyr ledleg Bro Morgannwg

 

Cyfle dysgu i ofalwyr di-dâl

Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf i Ofalwyr Di-dâl

Pryd a ble fydd yr hyfforddiant?

 

Mae'r hyfforddiant ar gael Dydd Iau, 28ain Tachwedd 2024: 10yb - 2yp

 

Cynhelir yr hyfforddiant yn 305 Gladstone Road, Y Barri, De Morgannwg, CF63 1NL. Mae uchafswm o 12 lle ar gael.

 

A fyddech cystal â chwblhau'r ffurflen fer hon i gadw lle ar y cwrs:

 

Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf i Ofalwyr Di-dâl

 

Beth yw'r hyfforddiant Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf a beth mae’n ei gynnwys? 
Mae’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf yn sesiwn 4 awr a gynhelir gan FAST - First Aid Supplies and Training mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg.

 

Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o’r hyn i'w wneud mewn argyfwng a sut y gallwch helpu yn y sefyllfa.

 

Beth fydd y gost? 
Er ein bod yn cynnig hyn am ddim i chi, mae ’na gost o ryw £60 fesul lle i Gyngor Bro Morgannwg, felly ar ôl i chi archebu eich lle dylech ymrwymo i fynychu ar y dydd oherwydd byddwn yn dal i orfod talu os na fyddwch yn dod.

 

  

 

Dewis Cymru logo

Mae Dewis Cymru yn gyfeirlyfr adnoddau cenedlaethol fel y gall pobl gael mynediad at wybodaeth gywir a chyfredol bob tro.

Dewis Cymru