Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae angen mabwysiadu plant o oedrannau gwahanol ag anghenion gwahanol, nad ydynt yn gallu byw gyda’u teuluoedd biolegol mwyach, ac mae profiad cynnar y plant hyn yn cael ei ystyried yn ein Nosweithiau Gwybodaeth rheolaidd ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn mabwysiadu.
Byddai gennym ddiddordeb mawr mewn clywed gennych os byddech yn ystyried mabwysiadu’r plentyn/plant hynny sydd fel arfer yn aros hiraf – y rheiny â phroblemau meddygol a datblygiadol neu anawsterau dysgu; grwpiau o ddau neu dri brawd a chwaer a phlant dros bedair oed.
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithfa ranbarthol sy’n ffurfio rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae’n gwasanaethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg.