Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg
Mae’r Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol yn Bartneriaeth sy’n gyfrifol am weithio ynghyd i oruchwylio diogelwch a lles plant a phobl ifanc ar hyd a lled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu plant. Gall pob plentyn gael ei frifo, fod mewn perygl o gael ei niweidio neu ei gam-drin, beth bynnag fo’i oedran, rhyw, crefydd neu ethnigrwydd. Mae deddfwriaeth diogelu a chanllawiau’r llywodraeth yn dweud bod diogelu yn golygu:
- Amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin
- Atal unrhyw niwed i iechyd neu ddatblygiad plant
- Sicrhau bod plant yn cael eu magu mewn amgylchedd sy’n cynnig gofal diogel ac effeithiol
www.bldpcaerdyddarfro.co.uk