Cost of Living Support Icon

Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae gwasanaethau cymdeithasol Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth.  Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod pethau'n mynd o chwith weithiau, ac felly’n methu â chyrraedd ein safon ddisgwyliedig.   

Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn iaith arall neu ar ffurf arall, cysylltwch â ni.

  

Mae cwynion gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried yn unol â'r gweithdrefnau a nodir gan Lywodraeth Cymru:

 

Rydym yn anelu at safonau uchel ond weithiau mae pethau'n mynd o chwith.  Dim ond os dywedwch wrthym eich bod yn anhapus y gallwn eich helpu a cheisio unioni pethau.  Peidiwch â bod ofn cwyno.  Rydym yn croesawu eich sylwadau, yn gadarnhaol ac yn negyddol, oherwydd gallent ein helpu i wella ein gwasanaethau i bawb.

 

Dim ond cwynion a godir o fewn 12 mis ar ôl i'r mater o bryder ddod i'ch sylw y gallwn eu hystyried oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Gan ddibynnu ar natur eich pryder, gellir ymdrin â'ch cwyn o dan broses arall, er enghraifft lle gall person fod mewn perygl.  Bydd unrhyw benderfyniad i ymchwilio i'ch pryder o dan broses wahanol yn cael ei drafod gyda chi.

 

Ni allwn edrych ar gwynion lle gallai ymchwiliad beryglu ymchwiliad gan yr heddlu neu pan fo ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Hefyd, ni fyddwn yn delio â chwyn lle rydych yn nodi eich bod yn cymryd camau cyfreithiol neu lle mae achos cyfreithiol. 

 

  • Sut i gael eich clywed

    Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd, gan gynnwys plentyn neu berson ifanc, sydd wedi derbyn neu a oedd â hawl i dderbyn gwasanaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol wneud cwyn. 

    Gallwch wneud cwyn ar ran rhywun arall, pan fo'r person hwnnw:

    • yn blentyn
    • wedi gofyn i chi weithredu ar eu rhan
    • â diffyg capasiti
    • wedi marw  

     

     

  • Beth yw cwyn? 

    Cwyn yw: 

    • Mynegiant o anfodlonrwydd neu bryder 
    • Naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar neu drwy unrhyw ddull cyfathrebu arall
    • Wedi'i wneud gan un neu fwy o ddinasyddion sydd wedi derbyn gwasanaethau neu sydd yn derbyn gwasanaethau neu'n eiriol ar ran dinesydd sydd neu oedd yn derbyn gwasanaethau. 
    • Mater yn ymwneud â gweithredu neu ddiffyg gweithredu gan ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus; neu
    • Ynglŷn â safon gwasanaeth a ddarparwyd

     

    Nid yw cwyn yn:

    • Gais cychwynnol am wasanaeth
    • Adolygiad neu apêl ffurfiol yn erbyn penderfyniad neu ddyfarniad
    • Modd o geisio newid deddfwriaeth neu benderfyniad ar bolisi ‘a wnaed yn briodol’
    • Modd i lobïo grwpiau/sefydliadau i geisio hyrwyddo achos
  • Sut i gyflwyno cwyn 

    Mae sawl ffordd o gyflwyno cwyn.  Gall dinasyddion wneud cwyn drwy ein ffurflen we neu gallant gysylltu â ni'n uniongyrchol:  

     

     

     

  • Cael help i godi eich pryder 

    Os oes angen help ar ddinesydd i godi pryder, gall Llais – eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol eu helpu i wneud hyn.  Mae Llais yn gorff annibynnol a gall ei wasanaeth Eiriolaeth am ddim roi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i aelodau'r cyhoedd a allai ddymuno codi pryder.

     

    Gall Llais gefnogi dinasyddion i godi pryder a rhoi cyngor ar y camau gweithredu mwyaf priodol.  Gall dinasyddion gysylltu â'u swyddfa Llais leol drwy’r cyfeiriad canlynol:

     

    Gwasanaeth Eiriolaeth

    Llais – Caerdydd a Bro Morgannwg

    Canolfan Fusnes Pro Copy (cefn)

    Parc Tŷ Glas

    Llanisien

    Caerdydd

    CF14 9DE

     

     

  • Os na fydd y gŵyn yn cael ei datrys

    Os na fydd eich cwyn yn cael ei datrys ar y cam Ymchwiliad Ffurfiol, mae gennych hawl i gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Gallwch gysylltu â nhw drwy’r ddolen ganlynol:

     

     

     

  • Sut i gyflwyno canmoliaeth 

    Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth lle gall dinasyddion a gweithwyr proffesiynol roi adborth ar wasanaeth eithriadol gan ein staff Gwasanaethau Cymdeithasol ac achub ar y cyfle i ddiolch iddynt. Mae hyn yn ein galluogi i ddathlu arfer da ac adborth ar yr hyn sy'n gweithio'n dda yn y gwasanaeth i lywio’n gwaith yn y dyfodol.

     

    Gall dinasyddion a gweithwyr proffesiynol gyflwyno Canmoliaeth trwy ein ffurflen we neu e-bost: 

     

     

  • Rhagor o wybodaeth 

    Mae gennych hawl i gwyno os nad ydych yn hapus gydag ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwch, ac mae'n ddyletswydd arnom i ystyried eich cwyn a cheisio ei datrys.

     

     

Manylion Cyswllt

Swyddog Cwynion

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

2il Lawr, Swyddfeydd y Dociau

Y Barri, CF63 4RT