What We Do:
-
Hwyluso cyfarfodydd misol sy'n darparu gofod diogel lle gall merched ifanc rannu eu meddyliau, eu pryderon, eu barn a'u safbwyntiau’n rhydd trwy drafodaethau agored.
-
Grymuso pobl ifanc i weithredu.
-
Cefnogi’r bobl ifanc i fynd i'r afael â materion sy’n ymwneud â rhywedd yn eu hysgolion a'u cymuned mewn ffordd briodol.
-
Rhoi cyfle dysgu anffurfiol i ehangu sgiliau a gwybodaeth gan gynnig y posibilrwydd o dderbyn hyfforddiant achrededig.
-
Annog ysgolion a gweithwyr proffesiynol o fewn y gymuned i gefnogi gwaith ac ymgyrchoedd Ei Llais Cymru.
Mae aelodau Ei Llais Cymru wedi cynnal ymgyrch o'r enw #NidYdymYnTeimlonDdiogel, oedd yn ceisio tynnu sylw at ba mor ddiogel yr oedd pobl ifanc yn teimlo ym Mro Morgannwg.
Fel rhan o'u hymgyrch, maent wedi hyrwyddo cynlluniau Llefydd Diogel i weld busnesau lleol yn cofrestru i ddod yn llefydd diogel.
Mae aelodau Ei Llais Cymru hefyd wedi creu posteri i godi ymwybyddiaeth o'r broses adrodd am aflonyddu rhywiol ac aflonyddu stryd.
Posteri Ei Llais Cymru