Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Ym Mro Morgannwg, mae amryw o ddarparwyr hyfforddiant lleol sy'n cefnogi pobl ifanc 16-19 oed. Gweler isod fanylion pellach am y gwasanaethau sydd ar gael.
Mae’r academi’n cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith o safon ar safleoedd gydag ystod eang o gontractwyr i roi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu eich gyrfa ym maes adeiladu.
Academi Adeiladu Ar-lein
Fel rhan o gyllid Llywodraeth Cymru, mae'r rhaglen Twf Swyddi Cymru+ wedi'i chynllunio ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn eich helpu i ddatblygu sgiliau, ennill cymwysterau a phrofiad i symud ymlaen yn eich dyfodol. Byddwch yn derbyn cymorth cyflogadwyedd ychwanegol ynghyd ag:
Ennill lwfans hyfforddi o hyd at £60 yr wythnos
Derbyn lwfans bwyd o hyd at £19.50 yr wythnos
Cymorth gyda chostau teithio i gyrraedd y ddarpariaeth
Ym Mro Morgannwg, mae tri phrif ddarparwr rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Cliciwch ar y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth neu i gysylltu. Pob un o'r isod
Mae ACT yn cynnig amrywiaeth eang o ddarpariaethau. Yn y Fro, mae ACT wedi'i leoli yn y Barri, ond mae lleoliadau eraill ym Mhen-y-bont a Chaerdydd.
Gwybodaeth am ACT Training Cysylltu ag ACT Training
Mae Itec yn cynnig amrywiaeth eang o lwybrau darparu. Yn y Fro, mae darpariaeth Itec wedi'i lleoli yn y Barri, ond mae lleoliadau eraill ym Mhen-y-bont a Chaerdydd.
Gwybodaeth Itec Cysylltu ag Itec
Mae Llamau’n cynnig detholiad o raglenni sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion pobl ifanc fel unigolion. Mae darpariaeth Llamau y Fro wedi'i lleoli yn y Barri, ond mae lleoliadau eraill ym Mhen-y-bont a Chaerdydd.
Gwybodaeth Llamau Cysylltu â Llamau
Dychwelyd at Ddewisiadau Ôl-16