Cost of Living Support Icon

Clybiau Ieuenctid Prosiect

Rydym yn cynnig sawl cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn clybiau ieuenctid prosiect gan gynnwys clwb ieuenctid 18+ a chlwb ieuenctid Cymraeg

 

  • Youthy 18+

    Mae Youthy 18+ yn glwb ieuenctid mynediad agored i bobl ifanc 18-25 oed.  Nod y clwb hwn yw cefnogi pobl ifanc gyda symud ymlaen i fod yn oedolion, gan gynnwys gweithgareddau sy'n seiliedig ar sgiliau bywyd fel rheoli arian, coginio a chymorth cyflogaeth.  Mae'r clwb hwn ar agor bob dydd Iau 6-8pm yn YMCA, Y Barri.

     

     

     

    YMCA

    Court Road

    Y Barri

    CF63 4EE

     

  • Clwb HYB

    Mae Clwb HYB yn glwb ieuenctid sy'n seiliedig ar atgyfeiriadau mewn partneriaeth â Vale People First, ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol 11-16 oed.  Nod y clwb hwn yw cefnogi pobl ifanc gyda phontio i glybiau ieuenctid prif ffrwd. I gyfeirio eich plentyn / person ifanc, cysylltwch â Gwasanaeth Ieuenctid y Fro.  Mae Clwb HYB ar agor yn wythnosol 6-8pm ar ddydd Mercher a dydd Gwener yn YMCA, Y Barri.

     

    YMCA

    Court Road

    Y Barri

    CF63 4EE

     

  • Clwb Ieuenctid

    Clwb ieuenctid Cymraeg yw Clwb Ieuenctid sy'n cael ei redeg gan Yr Urdd.  Mae'r clwb hwn ar gael i bobl ifanc ym mlynyddoedd 7, 8 a 9.   Mae’r clwb hwn yn un mynediad agored, ond anogir y defnydd o'r Gymraeg.  Mae'r clwb hwn ar agor ar ddydd Iau 6-8pm yn YMCA, Y Barri.

     

    Email: heleddllewelyn@urdd.org

    YMCA

    Court Road

    Y Barri

    CF63 4EE

  

Cysylltwch

Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o'r clybiau ieuenctid hyn, cysylltwch â ni yn:

 

 

Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch Wasanaeth Ieuenctid y Fro ar Facebook a Twitter a rhannwch eich lluniau a’ch profiadau ar ein cyfryngau cymdeithasol: