Cofrestrau Tir Comin a Gwyrddion Tref neu Bentref
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gynnal Cofrestr o Dir Comin a Chofrestr o Werddon Tref neu Bentref ac ar hyn o bryd mae'n dal y cofrestrau a luniwyd gan ddwy hen sir De Morgannwg a Chanolbarth Morgannwg.
Lluniwyd y cofrestrau, o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965, rhwng 1967 a 1970 ac maent yn cynnwys gwybodaeth am yr holl dir comin cofrestredig a'r gwyrddion pentref ym Mro Morgannwg.
Rhestrir pob ardal o dir cofrestredig yn y cofrestrau o dan Rif Uned (CL neu VG) unigryw. Mae'r cofrestrau hefyd yn dangos os oes unrhyw hawliau comin dros y tir ac yn cofnodi manylion hawliadau i berchnogaeth.
Gallwn roi gwybodaeth am weithdrefnau ond ni allwn roi cyngor cyfreithiol. Os oes angen cyngor cyfreithiol neu ddehongliad o'r gyfraith arnoch, bydd cyfreithiwr yn gallu helpu.