Cost of Living Support Icon

Cwrdd â’r Tîm

Caiff gwaith holl staff Cyngor Bro Morgannwg a gweithrediad beunyddiol y sefydliad ei reoli gan Brif Swyddogion y Cyngor. Mae’r Prif Swyddogion hyn yn cynnwys Cyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth a Rheolwyr Gweithredol ac maen nhw’n  gwneud argymhellion i’r Cabinet, ac yn atebol iddo. Mae Tîm Arweinyddiaeth Strategol  y Cyngor yn darparu cyfeiriad trosfwaol ac yn rheoli gwaith y Cyngor. 

 

Tîm  Arweinyddiaeth Strategol

Rob Thomas

Rob Thomas

Prif Weithredwr

Lance Carver

Lance Carver

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 

Liz Jones

Liz Jones

Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau

Miles Punter

Miles Punter

Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai

Matt Bowmer 

Matt Bowmer

Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151

Tracy Dickinson

Tracy Dickinson

Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

Nickki Johns

Nickki Johns

Pennaeth Digidol

Tom Bowring

Tom Bowring

Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol 

Marcus Goldsworthy 

Marcus Goldsworthy

Cyfarwyddwr Lle

Vicky Davidson

Victoria Davidson

Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro

 

Adnoddau Corfforaethol

14 Penarth Pier Icon

Mae’r Gyfarwyddiaeth yn gweithredu ystod o wasanaethau cefnogaeth i alluogi’r Cyngor i weithredu’n effeithiol, gan gynnwys adnoddau dynol, TG, gwasanaethau cyfreithiol a chyllid. Mae hefyd yn cynnwys swyddogaeth gwasanaethau democrataidd y Cyngor sy’n gweinyddu’r amrywiol bwyllgorau cabinet a chyfarfodydd cyngor lle gall aelodau etholedig wneud penderfyniadau a chraffu ar waith y sefydliad. 

 

Mae hefyd yn gyfrifol am ddatblygu strategaethau hir-dymor y sefydliad, trefniadau rheoli perfformiad, cydlynu’r modd y byddwn yn cyfathrebu gyda’r cyhoedd a rhedeg canolfan Cyswllt 1 Fro.

Amgylchedd a Thai

42 Council Van Icon

Mae’r gyfarwyddiaeth hon yn gyfrifol am ystod o wasanaethau amgylcheddol gan gynnwys glanhau a rheoli gwastraff, rheoli’r rhwydwaith ffyrdd, cynnal ein parciau a’n gofodau cyhoeddus, a goruchwylio’r ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus yn y Fro. 

 

Mae’r gyfarwyddiaeth hon hefyd yn gyfrifol am reoli stoc tai y Cyngor a darparu ystod o wasanaethau rheoliadol, megis safonau masnach, mewn partneriaeth â Chynghorau Caerdydd a Phen-y-bont trwy gyfrwng tîm y Fframwaith Rheoliadol a Rennir. 

Dysgu a Sgiliau

04 School Icon

Cyfrifoldeb y gyfarwyddiaeth hon yw rhoi cyfleoedd i dderbyn addysg o safon i bawb ym Mro Morgannwg, yn ein hysgolion a’n canolfannau dysgu oedolion ill dau.

 

Mae’r tîm Dysgu a Sgiliau hefyd yn rheoli llyfrgelloedd Bro Morgannwg, yn darparu ystod eang o wasanaethau ieuenctid, ac yn cefnogi projectau celf ledled y sir.

Gwasanaethau Cymdeithasol

10 Family Icon

Y gyfarwyddiaeth hon yw cartref yr holl dimau sy’n gweithio gyda phobl yn y Fro sydd angen cymorth a gofal a chael eu diogelu. 


Mae hyn yn cynnwys plant a’u teuluoedd, pobl hŷn ac oedolion neu blant sydd â salwch neu anabledd.

 

Mae ein tîm gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio i ddiogelu llesiant plant a phobl ifanc sydd mewn angen un ai o fewn eu teuluoedd, neu lle nad yw hynny’n bosibl drwy gynnig gofal amgen o ansawdd.

 

Mae’r gyfarwyddiaeth hefyd yn rhoi cefnogaeth i oedolion sydd angen help i fyw eu bywydau mor annibynnol ag y bo modd. Caiff y gefnogaeth yma ei darparu yn y tymor byr ac ar sail fwy parhaol.

Lle20 Barry Beach Huts

Mae ein tîm Lle yn gyfrifol am dyfu a rhannu ffyniant ym Mro Morgannwg.  Mae'r tîm yn llywio twf economaidd a ffisegol y rhanbarth gan sicrhau bod y sylfeini economaidd yn eu lle i wella bywydau trigolion Bro Morgannwg.

 

Mae hyn yn cynnwys cyflawni ein swyddogaethau cynllunio statudol, tra hefyd yn arwain ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd.

 

Rhoi cyfle i gydweithwyr weithio i wella canol trefi a chymdogaethau'r Fro a chydweithio â rhannau eraill o'r Cyngor a'n partneriaid rhanbarthol i sicrhau'r enillion gorau posibl ar fuddsoddiad i'r Cyngor a phobl Bro Morgannwg.