Cost of Living Support Icon

Sut i Gofrestru

Mae pedair ffordd y gallwch gofrestru ar gyfer y Gofrestr Etholiadol

 

Cofrestru Ar-lein

Cofrestru ar-lein yw'r ffordd gyflymaf i gofrestru – bydd yn cymryd 5 munud yn unig!

 

Bydd angen i chi wybod eich Rhif Yswiriant Gwladol a’ch Dyddiad Geni cyn i chi ddechrau!

Llenwch ein Ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru electronig drwy glicio’r botwm isod a dilyn y cyfarwyddiadau.

 

Cofrestrwch ar GOV.UK

Cofrestru dros y Ffôn

Pan fyddwch yn ffonio, byddwn yn gofyn am y manylion canlynol a fydd yn cymryd ychydig o funudau:

  • Eich enw cyfreithiol llawn
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Dyddiad Geni
  • Cyfeiriad Presennol
  • Eich manylion cyswllt rhag ofn y bydd angen i ni drafod eich cais i gofrestru yn nes ymlaen
  • Cyfeiriad blaenorol (os ydych wedi symud yn ddiweddar)
  • Enw blaenorol (os ydych wedi newid eich enw’n ddiweddar)
  • Pa ddull pleidleisio yr hoffech ei ddefnyddio
  • Pa un a hoffech gael eich eithrio o’r Gofrestr Agored
  • Ffoniwch ni ar 01446 729 552

 

*Mae unrhyw fanylion cyswllt a roddwch i ni yn gyfrinachol a dim ond yn cael eu defnyddio o fewn yr Adran Cofrestru Etholiadol*

Cofrestru gan ddefnyddio Ffurflen Bapur  

Enw’r ffurflen y bydd ei hangen arnoch chi yw’r Ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru.

 

Mae'r Ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru ar gael:

                               neu

  • drwy anfon ebost atom yn electoralregistration@valeofglamorgan.go.uk
    Os byddwch yn anfon e-bost atom, rhowch eich enw llawn a'ch cyfeiriad i ni yn eich neges.

                               neu
  • gasglu ffurflen o’r Brif Dderbynfa yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri. CF63 4RU

 

*Mae'n rhaid i Ffurflenni Papur gael eu llenwi'n gyflawn neu fe fydd yn oedi eich cais *     

                   

Cofrestru yn y swyddfa

Galwch i mewn i'r dderbynfa yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri. CF63 4RU a gofyn i'r derbynnydd am gopi o'r ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru.

 

Gallwch lenwi'r ffurflen yn y fan a'r lle a'i gadael gyda'r derbynnydd ar gyfer y Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

 

Os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch chi tra byddwch yn y Brif Dderbynfa, gofynnwch am aelod o'r Tîm Cofrestru Etholiadol.

 

Cyfarwyddidau i'r Swyddfeydd Dinesig

 

 

 

Cofrestrwch fel etholwr tramor. 

 

Os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig sy'n byw dramor, mae gennych dal hawl i bleidleisio mewn Etholiadau a Refferenda Senedd y DU.Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio drwy fynd i GOV.UK.

 

Oherwydd newidiadau deddfwriaeth i etholwyr tramor, codwyd cyfyngiadau gan ganiatáu i'r rhai a symudodd dramor 15 mlynedd a mwy yn ôl gofrestru i bleidleisio. Cliciwch ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth.   

 

Comisiwn Etholiadol 

 

Er mwyn sicrhau y gallwch bleidleisio mewn etholiadau Seneddol yn y dyfodol, mae angen i chi wneud cais ar-lein am bleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy. 

 

Cais Post Tramor 

 

Cais Dirprwy Tramor