ID pleidleisiwr
O 4 Mai 2023, bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos dogfen adnabod (ID) ffotograffig i fynd i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, mewn rhai etholiadau.
Mae hyn yn dilyn gofynion newydd a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau.
Bydd hyn yn berthnasol i:
O fis Hydref 2023 bydd hefyd yn berthnasol i Etholiadau Senedd Cyffredinol San Steffan.
Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos dogfen adnabod (ID) ffotograffig i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau'r Senedd nac mewn etholiadau cyngor lleol.
Dysgwch fwy am ID Pleidleiswyr:
Poster ID Pleidleiswyr
Dogfennau Adnabod Pleidleisiwr Derbyniol
Mae dogfen adnabod ffotograffig y gellir ei defnyddio i bleidleisio yn cynnwys pasbort, trwydded yrru, dogfen fewnfudo, cerdyn PASS, Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn, pàs teithio rhatach (ac eithrio cardiau rheilffordd) a cherdyn adnabod cenedlaethol.
Ni fydd pasys gwaith/myfyrwyr, cardiau rheilffordd a llungopïau o ddogfennau adnabod na lluniau ar ffonau symudol yn dderbyniol.
Nid oes angen i’r ddogfen adnabod ffotograffig fod yn gyfredol i'w defnyddio - dim ond bod angen iddi ddangos tebygrwydd i'r pleidleisiwr.
Os na allwch chi ddarparu un o'r mathau adnabod gofynnol fel y nodir mewn deddfwriaeth, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr am ddim drwy:
Gov.uk
Bydd Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr yn ddogfen ar bapur A4 gyda nodweddion diogelwch cynhenid. Bydd yn arddangos enw a llun ffotograff yr etholwr, y dyddiad cyhoeddi a'r awdurdod lleol sy'n cyhoeddi.
Bydd tri math o "Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr" - Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr, Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr dros dro, a'r Ddogfen Etholwyr Anhysbys (DEA/AED).
Bydd gan etholwyr ystod o opsiynau i ddewis ohonynt wrth wneud cais am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr - yn bersonol, drwy'r post neu ar-lein, gan sicrhau hygyrchedd i'r holl etholwyr. Bydd ein swyddfa yn gallu darparu cais ar bapur ar gais. Waeth beth yw'r dull y bydd person yn gwneud cais, bydd gwiriad ar statws cofrestriad etholiadol y person, a bydd angen cadarnhau pwy ydyn nhw.
Cwestiynau Cyffredin
-
Pa ddull adnabod gaiff ei dderbyn yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio?
-
Sut mae gwneud cais am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr?
-
Pam nad yw mathau eraill o ID yn cael eu derbyn?
Yn ôl y Gyfraith y pennir y mathau o ddogfennau derbyniol fel ID. Mae’r rhain wedi’u penderfynu gan Lywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu mwy o wybodaeth am ba fathau o brawf adnabod (ID) sy'n cael eu derbyn a pha rai nad sydd, ynghyd â'r meini prawf a ystyriwyd. Gallwch weld hynny ar
Mathau o ID ffotograffig a dderbynnir
-
Beth fydd yn digwydd os bydd pleidleisiwr yn mynd i'r orsaf bleidleisio heb unrhyw ddull adnabod derbyniol?
Os bydd pleidleisiwr yn dod i orsaf bleidleisio heb unrhyw ddogfen adnabod ffotograffig dderbyniol, ni fyddant yn cael papur pleidleisio a bydd angen iddynt ddychwelyd gyda dogfen adnabod ffotograffig dderbyniol.
-
Beth os nad yw pleidleisiwr am ddangos ID i bleidleisio?
Os byddai'n well gan bleidleiswyr beidio â dangos ID mewn gorsaf bleidleisio, gallant wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Nid oes angen ID ffotograffig i wneud cais na phleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Fodd bynnag, bydd gofyn i'w dirprwy ddangos ei ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio.
-
Sut fath o broses fydd y broses ymgeisio am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr / ID?
Gall pleidleiswyr wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim ar-lein yn voter-authority-certificate.service.gov.uk/ neu drwy lenwi a phostio ffurflen bapur i dîm gwasanaethau etholiadol eu cyngor lleol. Gall rhai awdurdodau lleol dderbyn ceisiadau yn bersonol. Bydd angen i bleidleiswyr ddarparu ffotograff, eu dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol yn rhan o'r cais.
-
Pa wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr/ ID am ddim?
Bydd yr ID am ddim yn dangos enw llawn a ffotograff pleidleisiwr, y cyngor lleol sy’n ei gyhoeddi, dynodwr priodol (cyfeirnod gan gynnwys rhifau a llythrennau a ddyrannwyd gan y cyngor), dyddiad cyhoeddi a dyddiad adnewyddu a argymhellir.
-
A fydd ID pleidleisiwr yn difreinio pobl?
Rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r newid, yn deall pa fathau o ID a gaiff eu derbyn, ac i'r rhai heb, sut a phryd i wneud cais am ID am ddim. Ein nod yw cefnogi'r rhai sydd am bleidleisio i wneud hynny'n llwyddiannus ac yn hyderus.
Cysylltwch â Gwasanaethau Etholiadol