Arfbais y Fro
Arfbeisiau a Chynheiliaid Sir Bro Morgannwg
Y nod wrth weithio ar ddyluniad ‘Cyflwyniad yr Arfbais’ oedd cysylltu symbolaeth herodrol y gorffennol â’r presennol, ynghyd â chadw’r dyluniad yn syml ac yn unigryw nodweddiadol o Fro Morgannwg.
Ar gyfer y darian, cyfunwyd arfbais Iestyn ap Gwrgant, Arglwydd Morgannwg, neu un a briodolwyd iddo, sef cefndir coch a thair streipen arian arno, ag arfbais teulu de Clare, ar ffurf cefndir aur a thair streipen goch arno. Ffurfiwyd un arfbais ohonynt sy’n berthnasol i Fro Morgannwg, ac yn arbennig felly Cyngor Bro Morgannwg, oherwydd bod y siâp V yn amlinelliad o lythyren gyntaf enw’r Fro yn Saesneg. Gallai ei siâp hefyd awgrymu ffurf bro ar ei symlaf.
UNDOD CADERNID CYNNYDD | UNITY STRENGTH PROGRESS
Detholwyd y Cynheiliaid fel Uncorn i gynrychioli tref y Barri a Llew i gynrychioli tref y Bont-faen, am fod y nodweddion herodrol cyfarwydd hyn yn ymddangos ar arfbeisiau’r Corfforaethau rheiny. I briodoli’r rhain â swyddogaeth Bro Morgannwg fel awdurdod lleol, mae coron furiog ar y naill a’r llall, yn arwydd o’u cyfrifoldebau dinesig.
Mae’r Arwyddlun yn seiliedig ar Arth Penarth, sy’n dal hwylbren a hwyl i gyfeirio at yr Arfbais a briodolwyd i Sant Illtud, sy’n arwyddocaol wrth gynrychioli Llanilltud Fawr. Mae’r tŵr y cwyd yr arth uwch ei ben hefyd yn cyfeirio at Lanilltud Fawr, am fod tri thŵr yn ymddangos ar Arfbeisiau a briodolir i Sant Illtud.
Mae’r chwe eglwys a sefydlwyd yn Llanilltud Fawr a’r cylch wedi eu cynrychioli gan y croesau ar gorff Cynheiliad y Llew.
Mae bariau am wddf yr Uncorn i gynrychioli’r Barri, a saif y Llew a’r Uncorn ar banel sy’n portreadu arfordir Morgannwg mewn ffurf gymharol gonfensiynol, gyda’i chilfachau a’i thraethau, ei chlogwyni a’i phenrhynion. Mae’r ysgubau gwenith sy’n ymddangos yn y panel yno i goffáu gweithgareddau amaethyddol hanesyddol Bro Morgannwg.