Manylion bywgraffyddol
Etholwyd y Cynghorydd Gwyn John i gynrychioli ward Llanilltud Fawr, sy’n cynnwys Llanfaes, Llanddunwyd, Marcroes, yr A Fawr, Gwersyll Gorllewin Sain Tathan a Picketston.
Cafodd y Cynghorydd Gwyn John ei addysg yn ysgol ramadeg y Bont-faen (1956-63). Gweithiodd i’r Weinyddiaeth Amddiffyn am 25 mlynedd cyn symud i ddiwydiannau peirianneg a chyflenwi. Treuliodd y rhan fwyaf o’i amser rhydd yn gweithio yn y diwydiant hamdden. Roedd y Cynghorydd John yn aelod o Gyngor Tref Llanilltud Fawr o 1974-79 cyn dychwelyd i faes gwleidyddiaeth yn 1999.
Etholwyd ef i Gyngor Bro Morgannwg yn 1999 fel ymgeisydd i’r Ceidwadwyr yn ward Llanilltud Fawr. Ymddiswyddodd o’r Blaid Geidwadol ar 1 Mai 2004 a mynd yn gynghorydd Annibynnol.
Safodd Gwyn fel ymgeisydd Annibynnol yn etholiad 2004 a dod ar ben y cyfrif am yr eildro yn ei dref enedigol, Llanilltud Fawr.
Ganed Gwyn yn 1945. Mae wedi byw yn Llanilltud Fawr gydol ei oes, y seithfed genhedlaeth o’i deulu yn y drefn. Roedd ei hen dad-cu yn gynghorydd, ac mae ‘Llanilltud Fawr yn ei waed’, meddai. Mae wedi bod yn un o hoelion wyth y gymuned erioed.
Etholwyd Gwyn i Gyngor Tref Llanilltud Fawr gyntaf yn 1974, ond ymhen pum mlynedd, ni safodd fel ymgeisydd eto oherwydd bod angen i’w waith gael blaenoriaeth.
Gweithiodd i’r Awyrlu yn Sain Tathan am chwarter canrif, ac yn 1989, rhoddwyd Medal Frenhinol Gwasanaeth iddo am ei waith. Bellach, mae’n gweithio yn niwydiant cyflenwadau peirianneg, ac mae’n cyfuno hwn â’i waith dros y Cyngor.