GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL
Hysbysiad o’r Cyfarfod CABINET
Dyddiad ac Amser
y Cyfarfod DYDD IAU, 23 MEHEFIN, 2022 AM 2.00 P.M.
Lleoliad CYFARFOD O BELL
AGENDA
RHAN I
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
[Gweld Cofnod]
2. Cofnodion.
[Gweld Cofnod]
3. Derbyn datganiadau o ddiddordeb.
(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau’r Arweinydd Gweithredol ac Aeold Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –
4. Defnydd o Bwerau Argyfwng y Prif Weithredwr.
[Gweld Cofnod]
5. Ymateb Drafft i Ymgynghoriad Canllawiau a Chyfarwyddiadau Statudol Llywodraeth Cymru a wnaed o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy –
6. Diweddariad ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol 2021 wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
[Gweld Cofnod]
7. Cyfnewidfa Drafnidiaeth Dociau'r Barri - Achos Busnes a Rhaglen Gyflawni Cam Tri WelTAG.
[Gweld Cofnod]
Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg –
8. Ymgynghoriad ar y Cynnig i Drosglwyddo Canolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Llandochau i Ysgol Y Ddraig.
[Gweld Cofnod]
Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu –
9. Trwyddedau Masnachu Priffyrdd Dros Dro.
[Gweld Cofnod]
10. Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan I).
(i) Adroddiad yr Arweinydd Gweithredol a'r Aelod Cabinet Perfformiad ac Adnoddau -
Y Gronfa Lefelu i Fyny (Rownd 2) a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
[Gweld Cofnod]
RHAN II
EFALLAI Y GWAHERDDIR Y CYHOEDD A'R WASG O’R CYFARFOD TRA YR YSTYRIR YR EITEM/EITEMAU CANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
11. Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan II).
(i) Adroddiad yr Arweinydd Gweithredol a'r Aelod Cabinet Perfformiad ac Adnoddau -
Y Gronfa Lefelu i Fyny (Rownd 2) a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
[Gweld Cofnod]
Rob Thomas
Prif Weithredwr
17 Mehefin, 2022
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 -
Archwilio papurau cefndirol:
Yn y lle cyntaf, dylid gwneud ymholiadau i M. Swindell Ffôn: 01446 709479.
E‑bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
I Aelodau’r Cabinet –
Y Cynghorydd L. Burnett (Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Perfformiad ac Adnoddau)
Y Cynghorydd B.E. Brooks (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy)
Y Cynghorydd R.M. Birch (Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg)
Y Cynghorydd M.R. Wilson (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu)
Y Cynghorydd M.R. Wilkinson (Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid)
Y Cynghorydd E. Williams (Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd)
Y Cynghorydd S. Sivagnanam (Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol)
Y Cynghorydd G. John (Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)
SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol. Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol. Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’ sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.
Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf. Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd. Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn. 01446 709479.
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx