GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL
Hysbysiad o’r Cyfarfod CABINET
Dyddiad ac Amser
y Cyfarfod DYDD IAU, 8 MEHEFIN, 2023 AM 2.00 P.M.
Lleoliad CYFARFOD O BELL
AGENDA
RHAN I
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Cofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 25 Mai, 2023.
[Gweld Cofnod]
3. Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad a Cyngor.
(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau'r Arweinydd Gweithredol a'r Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –
4. Defnydd o Bwerau Argyfwng y Prif Weithredwr.
[Gweld Cofnod]
5. Diweddariad Platfform Cyfarfod Hybrid.
[Gweld Cofnod]
Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu –
6. Gwaredu Llain Fach o Dir ym Mherchnogaeth Tai yn Nhrebeferad, Trebeferad.
[Gweld Cofnod]
Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd –
7. Panel Rhianta Corfforaethol - Diweddariad i'r Cylch Gorchwyl.
[Gweld Cofnod]
8. Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan I).
RHAN II
EFALLAI Y GWAHERDDIR Y CYHOEDD A'R WASG O’R CYFARFOD TRA YR YSTYRIR YR EITEM/EITEMAU CANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
Adroddiad yr Arweinydd Gweithredol a'r Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –
9. Diweddariad Platfform Cyfarfod Hybrid.
[Gweld Cofnod]
10. Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan II).
Rob Thomas
Prif Weithredwr
2 Mehefin, 2023
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 -
Archwilio papurau cefndirol:
Yn y lle cyntaf, dylid gwneud ymholiadau i M. Swindell Ffôn: 01446 709479.
E‑bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
I Aelodau’r Cabinet –
Y Cynghorydd L. Burnett (Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Berfformiad ac Adnoddau)
Y Cynghorydd B.E. Brooks (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy)
Y Cynghorydd R.M. Birch (Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg)
Y Cynghorydd M.R. Wilson (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu)
Y Cynghorydd E. Williams (Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd)
Y Cynghorydd S. Sivagnanam (Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol)
Y Cynghorydd G. John (Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)
1 Sedd Wag – (Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid – bydd materion sy’n dod o dan y portffolio hwn yn cael eu rhannu rhwng yr Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Berfformiad ac Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)
SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.
Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.
Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd. Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein. Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.
Cyfarfodydd a gynhelir o Bell
Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e., o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny. Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.
Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn. 01446 709479
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx