GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL
Hysbysiad o Gyfarfod PWYLLGOR CYSWLLT CYMUNEDOL
Dyddiad ac amser
y Cyfarfod DYDD IAU, 14 GORFFENNAF, 2022 AM 6.00 P.M.
Lleoliad CYFARFOD O BELL
Agenda
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
[Gweld Cofnod]
2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2022.
[Gweld Cofnod]
3. Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.
(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
[Gweld Cofnod]
4. Cyflwyniad –
Cyflwyniad i’r Pwyllgor Cyswllt Cymunedol.
[Gweld Cofnod]
5. Materion Heddlu.
[Gweld Cofnod]
6. Cais am Ystyriaeth gan Gyngor Cymuned Llangan –
Gwybodaeth mewn adroddiadau trosedd a adroddwyd gan yr Heddlu i Gynghorau Cymuned.
[Gweld Cofnod]
7. Materion Gwasanaeth Tân ac Achub.
[Gweld Cofnod]
8. Cyflwyniad –
Gwasanaeth Tȃn ac Achub De Cymru – Ymosodiadau Criw Gwasanaeth Cyhoeddus: Graddfa ac Ymateb.
[Gweld Cofnod]
Adroddiad y Prif Weithredwr –
9. Enwebu Cynrychiolwyr o Gynghorau Tref a Chymuned ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Cydbwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a Phanel Gwerthuso’r Gronfa Cymunedau Cryf.
[Gweld Cofnod]
10. Cais am Ystyriaeth gan Gyngor San Nicolas a Thresimwn –
Arian A106.
[Gweld Cofnod]
11. Cais am Ystyried gan Gyngor Tref Llanilltud Fawr –
Gorchmynion Cadw Coed.
[Gweld Cofnod]
Rob Thomas
Prif Weithredwr
7 Gorffennaf, 2022
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985.
Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi
A. Rudman: (01446) 709855
e-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
I holl Aelodau’r Pwyllgor Cyswllt Cymunedol -
Cadeirydd: Cynghorydd S.M. Hanks;
Is-gadeirydd: Cynghorydd M.R. Wilson;
Y Cynghorwyr: A. Asbrey, J. Aviet, R.M. Birch, S. Campbell, C.A. Cave, S.J. Haines, N.P. Hodges, J. Lynch-Wilson, H.M. Payne, S.D. Perkes ac R.R. Thomas.
a Chynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned
SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol. Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol. Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’ sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.
Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf. Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd. Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn 01446 709855.
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx