Hysbysiad o Gyfarfod Y CYNGOR
Dyddiad ac amser DYDD MERCHER, 12 RHAGFYR, 2018 AM 6.05 P.M.
y Cyfarfod
Lleoliad SIAMBR Y CYNGOR, SWYDDFEYDD DINESIG
GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD
GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.
Agenda
RHAN 1
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
[Gweld Cofnod]
2. (a) Clywed rhestr yr aelodau.
(b) Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.
(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
[Gweld Cofnod]
3. Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2018.
[Gweld Cofnod]
4. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.
[Gweld Cofnod]
5. Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig Canlynol (a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Dr. I.J. Johnson a S.T. Wiliam) –
“Bod Cyngor y Fro yn dod yn Gyflogwr Cyflog Byw wedi'i achredu'n ffurfiol gyda'r Sefydliad Cyflog Byw, ac yn ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw Go Iawn i'r holl gyflogeion uniongyrchol, yn ogystal â datblygu polisïau i sicrhau bod y Cyflog Byw Go Iawn yn cael ei dalu i staff a gyflogir yn anuniongyrchol.”
[Gweld Cofnod]
6. Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig Canlynol (a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Mrs. S. D. Perkes) –
“Mae'r Cyngor hwn yn credu y dylid gwahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon, dim ond gan fridiwr neu sefydliad achub cydnabyddedig y dylai cŵn bach fod ar gael i’w prynu. Mae'r Cyngor hwn, felly, yn cytuno y dylai'r Arweinydd neu'r Rheolwr Gyfarwyddwr ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i weithredu, drwy ddeddfwriaeth os yn bosibl, a rhoi gwaharddiad o'r fath ar waith, fel mater brys.”
[Gweld Cofnod]
Adroddiad y Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –
7. Y Weithdrefn Datrys Anghydfod Lleol Diwygiedig.
[Gweld Cofnod]
8. Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor
O.N. Mae’r adroddiadau y cyfeirir atynt parthed Eitemau Agenda 8(a) a (c) uchod eisoes wedi eu dosbarthu i Aelodau gydag Agenda’r Cabinet ar gyfer 19 Tachwedd a 3 Rhagfyr, 2018.
**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa’r Cabinet yn ôl y gofyn**.
9. I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.
10. I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg).
[Gweld Cofnod]
11. Cwestiynau gan y Cyhoedd –
Derbyniwyd 16 cwestiynau ac maent ynghlwm.
[Gweld Cofnod]
12. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).
RHAN II
GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
13. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).
Rob Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr
6 Rhagfyr, 2018
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -
Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi Mr. J. Rees, Ffôn: Y Barri (01446) 709413
E-bost: JERees@valeofglamorgan.gov.uk
Dosbarthu: I Holl Aelodau’r Cyngor.
Noder:Cofiwch bod rhai cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu darlledu, cewch wybod ar lafar os bydd y cyfarfod yr ydych chi ynddo yn cael ei ddarlledu. Os bydd yn cael ei ddarlledu, mae’n golygu eich bod chi’n cael eich recordio’n weledol ac o ran sain a bydd hynny ar gael ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd. Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa.
Rhif Ffôn (01446) 709413 neu drwy
e-bost – jerees@valeofglamorgan.gov.uk