GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL
Hysbysiad o Gyfarfod Y CYNGOR
Dyddiad ac amser DYDD LLUN, 29 GORFFENNAF 2019 AM 6.05 P.M.
y Cyfarfod
Lleoliad SIAMBR Y CYNGOR, SWYDDFEYDD DINESIG
GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.
GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.
Agenda
RHAN 1
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
[Gweld Cofnod]
2. (a) Clywed rhestr yr aelodau.
(b) Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.
(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
[Gweld Cofnod]
3. Cymeradwyo cofnodion –
(i) Y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mai, 2019;
(ii) Y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2019.
[Gweld Cofnod]
4. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.
[Gweld Cofnod]
5. Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig Canlynol [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr L. Burnett (Dirprwy Arweinydd) a N. Moore (Arweinydd)] –
[Gweld Cofnod]
Mae’r Cyngor hyn yn cydnabod yr ‘Adroddiad Arbennig ar Gynhesu Byd-Eang gydag 1.5°C’ gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (PRhNH), (Hydref, 2018) a ganfu’r canlynol:
-
Mae cynhesu byd-eang gan ddwylo dyn eisoes wedi arwain at newidiadau niferus sy’n amlwg yn y system hinsawdd, gan gynnwys cyfnodau amlach o dywydd poeth iawn yn ym mwyafrif yr ardaloedd yn y tir, cyfnodau hirach ac amlach o dywydd poeth iawn mewn ardaloedd morol, a chynnydd yn amlder, dwysedd a/neu faint law trwm ar raddfa fyd-eang.
-
Cyrhaeddodd cynhesu byd-eang tua 1°C yn uwch na'r lefelau cyn y chwyldro diwydiannol yn 2017, ac mae'n debyg y bydd yn cyrraedd 1.5°C rhwng 2030 a 2052.
-
Bydd cynnydd o 1.5°C yn arwain at nifer o effeithiau negyddol gan gynnwys cynnydd yn amlder, dwysedd a/neu faint glaw trwm mewn sawl ardal, a diflanna ran fwyaf (70-90%) y greigresi cwrel dŵr cynnes (trofannol) sydd heddiw.
-
Bydd cynnydd ychwanegol hyd at 2°C yn arwain at niwed llawer mwy difrifol, gan gynnwys risg uwch o brinder dŵr mewn rhai ardaloedd a thywydd eithafol mwy rheolaidd, cyfnodau syched, llifogydd, lefel y môr yn codi’n gyflymach, cnydau’n methu ac ecosystemau tir a morol yn cael eu dinistrio a cholli 99% o’r creigresi cwrel trofannol.
-
Gyda’r strategaethau presennol, mae'r byd ar drywydd mynd heibio terfyn uchaf o 1.5°C yng Nghytundeb Paris ar Gonfensiwn Fframwaith y CU ar Newid yn yr Hinsawdd yn cael ei groesi cyn 2050 a bydd yn mynd dros 3°C erbyn 2100.
-
Gallai fod yn bosibl o hyd cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5°C trwy gymryd camau gweithredu uchelgeisiol gan lywodraethau lleol a chenedlaethol, sefydliadau a busnesau, a'r bobl leol a'u cymunedau.
Mae’r Cyngor yn nodi ymhellach:
-
Ymrwymiad y weinyddiaeth i gyflawni’r Nodau Llesiant sydd yn y Cynllun Corfforaethol ‘Cymunedau Cryf gyda Dyfodol Disglair’ a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a gwneud cynnydd ar fentrau sy’n cefnogi’r Cynllun Rheoli Carbon presennol.
-
Gall cymryd camau cadarn i leihau’r allyrron carbon hefyd ddod â budd o ran swyddi newydd, arbedion economaidd a chyfleoedd masnach.
Mae’r Cyngor hwn felly yn penderfynu’r canlynol:
-
Ymuno â Llywodraeth Cymru a chynghorau eraill ledled y DU i ddatgan ‘argyfwng hinsawdd’ byd-eang mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiad PRhNH.
-
Lleihau ei allyriadau ei hun i swm net o ddim cyn targed Llywodraeth Cymru, sef 2030, a chefnogi gweithredu Cynllun Cyflawni Carbon Isel newydd Llywodraeth Cymru, er mwyn helpu i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector Cyhoeddus carbon niwtral yng Nghymru.
-
Cyflwyno sylwadau yn ôl yr angen i Lywodraeth Cymru a’r DU, i ddarparu’r pwerau, adnoddau a chymorth technegol mae eu hangen ar awdurdodau lleol yng Nghymru i’w helpu i gyrraedd targed 2030 yn llwyddiannus.
-
Parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth i ddatblygu dulliau arfer gorau a’u rhoi ar waith er mwyn cyflawni gostyngiadau carbon a helpu i gyfyngu ar y cynhesu byd-eang.
-
Gweithio gyda rhanddeiliaid lleol gan gynnwys Cynghorwyr, trigolion, pobl ifanc, busnesau a phartïon eraill perthnasol i ddatblygu strategaeth yn unol â’r targed ar gyfer cyrraedd dim allyrron erbyn 2030 ac edrych ar ffyrdd o sicrhau’r buddion lleol gorau posibl o ganlyniad i’r camau hyn mewn sectorau eraill megis cyflogaeth, iechyd, amaethyddiaeth, trafnidiaeth a'r economi.
6. Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig Canlynol [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr V.J. Bailey a V.P. Driscoll –
[Gweld Cofnod]
Cyngor Bro Morgannwg:
- Yn gresynu wrth gynigion y Cabinet i gyflwyno taliadau parcio ceir ledled y Fro;
- Yn nodi'r effaith ddinistriol y byddai'r cynigion - fel y'u drafftiwyd ar hyn o bryd - yn ei chael ar Strydoedd Uchel ledled y Fro, ac ar fasnach yn Ynys y Barri;
- Yn galw ar y Weinyddiaeth newydd i ddileu'r taliadau arfaethedig, ac i gymeradwyo argymhellion trawsbleidiol y ddau brif Bwyllgor Craffu.
7. Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig Canlynol [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr A.R.T. Davies a G.C. Kemp –
[Gweld Cofnod]
Cyngor Bro Morgannwg:
- Yn gresynu wrth y penderfyniad i symud Ysgol Gynradd Llancarfan o'i safle presennol;
- Yn nodi addewidion etholiad y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol i gefnogi'r pentref yn ei frwydr i gadw Ysgol Llancarfan yn Llancarfan;
- Yn galw ar y weinyddiaeth Lafur newydd i wrthdroi'r penderfyniad, a gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid o dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i uwchraddio'r ddwy ysgol bresennol yn y Rhws a Llancarfan.
Cyfeiriad –
8. Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd - Dirprwy Bwyllgor Enwebedig y Pwyllgor Craffu: Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd Ac Adfywio – 25 Mehefin, 2019.
[Gweld Cofnod]
9. Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor
O.N. Mae’r adroddiadau y cyfeirir atynt parthed Eitemau Agenda 9(a) i (c) uchod eisoes wedi eu dosbarthu i Aelodau gydag Agenda’r Cabinet ar gyfer 15 Gorffennaf, 2019.
**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**.
10. I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.
11. I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg).
[Gweld Cofnod]
12. Cwestiynau gan y cyhoedd –
Derbyniwyd 7 chwestiwn.
[Gweld Cofnod]
13. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).
RHAN II
GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
14. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).
Rob Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr
23 Gorffennaf, 2019
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -
Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi Mr. J. Rees, Ffôn: Y Barri (01446) 709413
E-bost: JERees@valeofglamorgan.gov.uk
Dosbarthu: I Holl Aelodau’r Cyngor.
Noder:Cofiwch bod rhai cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu darlledu, cewch wybod ar lafar os bydd y cyfarfod yr ydych chi ynddo yn cael ei ddarlledu. Os bydd yn cael ei ddarlledu, mae’n golygu eich bod chi’n cael eich recordio’n weledol ac o ran sain a bydd hynny ar gael ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd. Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa.
Rhif Ffôn (01446) 709413 neu drwy
e-bost – jerees@valeofglamorgan.gov.uk