GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL
Hysbysiad o Gyfarfod Y CYNGOR
Dyddiad ac amser DYDD LLUN, 6 RHAGFYR, 2021 AM 6.05 P.M.
y Cyfarfod
Lleoliad CYFARFOD O BELL
GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.
GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.
Agenda
RHAN 1
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
[Gweld Cofnod]
2. (a) Clywed rhestr yr aelodau.
(b) Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.
(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
[Gweld Cofnod]
3. I gymeradwyo'r cofnodion:
(i) Cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi, 2021;
(ii) Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2021;
(iii) Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2021.
[Gweld Cofnod]
4. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.
[Gweld Cofnod]
Adroddiad yr Arweinydd –
5. Diweddariad ar Ailstrwythuro'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (SLT) Arfaethedig.
[Gweld Cofnod]
Cyfeiriadau –
6. Diogelwch a Chefnogaeth Cynghorwyr – Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: 22 Tachwedd, 2021.
[Gweld Cofnod]
7. Amrywiaeth mewn Democratiaeth – Cynllun Gweithredu – Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: 22 Tachwedd, 2021.
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau’r Rheolwr Gyfarwyddwr –
8. Defnydd o Bwerau Brys y Rheolwr Gyfarwyddwr.
[Gweld Cofnod]
9. Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu Mai 2019 - Ebrill 2021.
[Gweld Cofnod]
10. Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor –
O.N. Mae'r adroddiadau sy'n destun y cyfeiriadau mewn perthynas ag Eitemau Agenda 10 (a) i (f) uchod eisoes wedi'u dosbarthu i Aelodau gydag agendâu'r Cabinet ar gyfer 8 Tachwedd a 22 Tachwedd, 2021. Fodd bynnag, er mwyn cynorthwyo Aelodau i ystyried eitem 10 (b) uchod, mae copi o'r adroddiad wedi'i gynnwys yn yr agenda.
**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**.
11. I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.
12. I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg).
[Gweld Cofnod]
13. Cwestiynau gan y cyhoedd –
Derbyniwyd 18 cwestiwn.
[Gweld Cofnod]
14. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).
RHAN II
GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
15. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).
Rob Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr
30 Tachwedd, 2021
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -
Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi J. Rees, Ffôn: Y Barri (01446) 709413
E-bost: JERees@valeofglamorgan.gov.uk
Dosbarthu: I Holl Aelodau’r Cyngor.
Noder:Cofiwch bod rhai cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu darlledu, cewch wybod ar lafar os bydd y cyfarfod yr ydych chi ynddo yn cael ei ddarlledu. Os bydd yn cael ei ddarlledu, mae’n golygu eich bod chi’n cael eich recordio’n weledol ac o ran sain a bydd hynny ar gael ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd. Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa.
Rhif Ffôn (01446) 709413 neu drwy
e-bost – jerees@valeofglamorgan.gov.uk
SYLWCH: Oherwydd y cyfyngiadau cyfredol a'r gofyniad i bellhau cymdeithasol ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Cyfarfod rhithwir fydd hwn a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor a Swyddogion i gefnogi eitemau’r agenda. Bydd y cyfarfod yn cael ei gofnodi i'w drosglwyddo wedi hynny trwy wefan y Cyngor. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn. 01446 709413.
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx