Cost of Living Support Icon

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod    Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser         DYDD LLUN, 10 MAWRTH, 2025 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod             

 

Lleoliad                        CYFARFOD HYBRID

 

GOFYNNIR I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.

BYDD EILIAD O FYFYRIO AM 6.00 P.M.

 

 

Agenda

 

RHAN 1

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.         (a)       Clywed rhestr yr aelodau.

            (b)       Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

3.         Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

(a)       2 Rhagfyr, 2024;

(b)       13 Ionawr, 2025 am 6.05pm (Arbennig);

(c)       13 Ionawr, 2025 am 6.15pm (Arbennig); a

(d)       13 Ionawr, 2025 am 6.30pm (Arbennig).

 

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Prif Weithredwr a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

 

5.         Cwestiynau gan y Cyhoedd –    

            Nid oes unrhyw gwestiynau wedi dod i law.

 

6.         Ystyried y Rhybudd o Gynnig a ganlyn [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Dr. I.J. Johnson a C.M. Cowpe] –

 

            Datganoli Ystâd y Goron

  

Mae'r Cyngor hwn yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am Ystâd y Goron a'i hasedau yng Nghymru, gan ganiatáu ailfuddsoddi elw o Ystâd y Goron yng Nghymru yng Nghymru, fel y mae Llywodraeth yr Alban yn gallu gwneud yn yr Alban lle mae ganddynt y pwerau hyn eisoes.

 

Mae'r Cyngor yn nodi ymhellach sefyllfa ariannol heriol barhaus Awdurdodau Lleol yng Nghymru, ac yn credu ei bod yn annheg bod preswylwyr cyffredin yn wynebu biliau uwch a llai o wasanaethau tra bod elw a wneir yng Nghymru yn cael ei allforio.

 

Mae'r Cyngor yn cytuno i ysgrifennu at Brif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Llywodraeth Cymru i fynegi ein cefnogaeth i ddatganoli Ystâd y Goron i Lywodraeth Cymru.

 

7.         Ystyried y Rhybudd o Gynnig a ganlyn [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Dr. I.J. Johnson a C.M. Cowpe] –

 

Effaith y cynnydd mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr

 

Mae'r Cyngor hwn yn nodi'r newidiadau yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys cynnydd yn y swm a godir a gostyngiad yn y trothwy cymhwysedd y telir CYGau cyflogwyr drosto.

 

Er y rhagwelir y bydd y sector cyhoeddus yn cael ei warchod rhag y cynnydd mewn costau y mae hyn yn eu cynrychioli, nid dyma fydd yr achos gyda llawer o sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau hanfodol neu sy'n cael eu defnyddio gan Gyngor Bro Morgannwg, gan gynnwys elusennau a chartrefi gofal, ac mae'n debygol y bydd costau ychwanegol o'r fath yn cael eu trosglwyddo i breswylwyr a Chynghorau cartrefi gofal. 

 

Mae'r Cyngor hwn yn penderfynu gwrthwynebu'r cynigion ac ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys yn mynegi ei wrthwynebiad i'r newidiadau, ac i Lywodraeth Cymru ofyn am amddiffyniad rhag yr holl gostau cynyddol hyn pan gyhoeddir y setliad llywodraeth leol.

 

Cyfeiriad –

8.         Cynnig i Ddiwygio Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2024/25Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: 6 Ionawr, 2025.

 

Adroddiad y Prif Weithredwr –

9.         Ymgynghori â Threthdalwyr Annomestig

 

Adroddiad y Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –

10.      Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor

 

11.      Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor –   

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Asesiad Perfformiad Panel Cyngor Bro Morgannwg (3) and (4)

6 Chwefror, 2025

C246

(b)      Y Fro 2030 Cynllun Corfforaethol Drafft Bro Morgannwg 2025- 30

          Atodiad Atodol - D

          Atodiad Atodol - E

          (Cyfeiriad i Ddilyn)

6 Mawrth, 2025

C

(c)        Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Fuddsoddi 2025/26 i 2029/30  (Cyfeiriad i Ddilyn)

6 Mawrth, 2025

C

(d)       Strategaeth Rheoli Trysorlys a Buddsoddi  2025/26 a Diweddariad ar gyfer 2024/25  (Cyfeiriad i Ddilyn)

6 Mawrth, 2025

C

(e)       Cyllideb drafft 2025/26 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig 2025/26 i 2029/30  (Cyfeiriad i Ddilyn)

6 Mawrth, 2025

C

(f)        Polisi Tâl 2025/26 (2)

6 Chwefror, 2025

C247

 

O.N.    Mae’r adroddiadau sy’n destun y cyfeiriadau mewn perthynas ag Eitemau Agenda 11(a) i 11(f) uchod eisoes wedi’u dosbarthu i’r Aelodau gydag rhaglenni'r Cabinet ar gyfer y dyddiadau a nodir uchod.

 

***Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**. 

 

12.      Gosod Treth y Cyngor 2025/26.

 

13.      I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 15.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y

Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Monitro Cyfalaf ar gyfer y Cyfnod 1 Ebrill i 30 Medi 2024 (3)

28 Tachwedd, 2024

C180

(b)       Cynllun Ôl-osod Tai PAS2035 2024/25 (2)

28 Tachwedd, 2024

C186

(c)        Cynllun Ôl-osod Tai PAS2035 2024/25 (Rhan II) (3)

28 Tachwedd, 2024

C190

(d)       Neilltuo Dau Eiddo o'r Stoc Tai i'r Gyfadran Gwasanaethau Cymdeithasol (2)

19 Rhagfyr, 2024

C209

(e)       Partneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro (2)

19 Rhagfyr, 2024

C215

(f)        Partneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro (Rhan II) (3)

19 Rhagfyr, 2024

C219

(g)       Parcio Ceir (9)

9 Ionawr, 2025

C228

(h)       Cyllideb Gychwynnol 2025/26 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig 2025/26 i 2029/30 Cynigion ar gyfer Ymgynghori (7)

16 Ionawr, 2025

C234

(i)         Cynigion Rhaglen Gyfalaf Drafft 2025/26 i 2029/30 (5)

16 Ionawr, 2025

C235

 

 

14.      I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.19.2 – 4.19.9 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

 

15.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

16.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

4 Mawrth, 2025

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi J. Langridge-Thomas, Ffôn: Y Barri (01446) 709413

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk 

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

SYLWCH:

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709413

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx