GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL
Hysbysiad o Gyfarfod PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO
Dyddiad ac amser y Cyfarfod DYDD LLUN, 17 MEHEFIN, 2024 AM 6.00 PM
Lleoliad CYFARFOD HYBRID
Agenda
RHAN I
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Cofnodion y Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2024.
[Gweld Cofnod]
3. Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.
(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)
[Gweld Cofnod]
Cyfeiriad –
4. Defnyddio Gwybodaeth Perfformiad: Safbwynt Defnyddwyr Gwasanaeth a Chanlyniadau – Cyngor Bro Morgannwg – Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol: 22 Mai, 2024.
[Gweld Cofnod]
[5. Datblygu Cynllun Corfforaethol 2025-2030, Asesiad Perfformiad y Panel a Chalendr Perfformiad Blynyddol 2024/25 – Cabinet: 6 Mehefin, 2024.
[Gweld Cofnod]
Adroddiad y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol –
6. Diweddariad Ch4: Amserlen Rhaglen Waith Archwilio Cymru 2023/24 – Cyngor Bro Morgannwg.
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau y Pennaeth Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol –
7. Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2023/24.
[Gweld Cofnod]
8. Siarter Gwasanarthau a Rennir Archwilio Mewnol Rhanbarthol 2024-25.
[Gweld Cofnod]
9. Strategaeth Archwilio Mewnol a Chynllun Seiliedig ar Risg 2024/25.
[Gweld Cofnod]
10. Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi'i Diweddaru.
[Gweld Cofnod]
11. Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan I).
RHAN II
MAE’N BOSIBL Y CAIFF Y CYHOEDD A’R WASG EU HEITHRIO O’R CYFARFOD TRA BOD YR EITEM(AU) YN CAEL EU HYSTYRIED YN UNOL AG ADRAN 100a(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
12. Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan II).
Rob Thomas
Prif Weithredwr
11 Mehefin, 2024
Mae fersiwn o’r Agenda hwn hefyd ar gael yn Saesneg
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985
Archwilio papurau cefndirol:
Yn yr achos cyntaf, dylid cyfeirio ymholiadau at
G. Davies, Ffôn: 01446 709249
e-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
At Aelodau’r Pwyllgor Archwilio
Cadeirydd: G. Chapman (Aeold Lleyg);
Is-gadeirydd: N. Ireland (Aeold Lleyd);
Y Cynghorwyr: P. Drake, E. Goodjohn, M.J. Hooper, J.M. Norman. J. Protheroe
ac N.J. Wood; a M. Evans (Aelod Lleyg)
SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.
Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.
Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd. Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein. Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.
Cyfarfodydd a gynhelir o Bell
Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e., o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny. Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.
Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn. 01446 709249
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx