GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL
Hysbysiad o Gyfarfod PWYLLGOR CRAFFU BYW’N IACH A GOFAL CYMDEITHASOL
Dyddiad ac amser
y Cyfarfod DYDD MAWRTH, 11 IONAWR, 2022 AM 5.00 P.M.
Lleoliad CYFARFOD O BELL
Agenda
RHAN I
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr, 2021.
[Gweld Cofnod]
3. Datgan buddiannau (gan gynnwys datganiadau chwipio) dan God Ymarfer y Cyngor.
(Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu `â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol –
4. Asesiad Anghenion Poblogaeth [Gweld y cyflwyniad].
[Gweld Cofnod]
5. Monitro Refeniw a Chyfalaf am y Cyfnod 1 Ebrill I 30 Tachwedd 2021.
[Gweld Cofnod]
6. Diweddariad ar Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg.
[Gweld Cofnod]
Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr –
7. Olrhain Argymhelliad Craff 3ydd Chwarter 2021/22 ac Amserlen Rhaglen Waith Ymlaen y Pwyllgor wedi’i Diweddaru 2021/22.
[Gweld Cofnod]
8. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).
RHAN II
GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
9. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).
Rob Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr
4 Ionawr, 2022
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi
A. Rudman, Ffôn: Y Barri (01446) 709855
E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
I holl Aelodau'r Pwyllgor Craffu Byw'n Iach a Gofal Cymdeithasol
Cadeirydd: Cynghorydd S.J. Griffiths;
Is-Gadeirydd: Cynghorydd N.C. Thomas;
Cynghorwyr: J. Aviet, J.E. Charles, O. Griffiths, T.H. Jarvie, R. Nugent-Finn a J.W. Thomas (ynghyd â dwy swydd wag)
SYLWCH: Oherwydd y cyfyngiadau cyfredol a'r gofyniad i bellhau cymdeithasol ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd "presenoldeb" yn cael ei gyfyngu i Aelodau'r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw rai sydd wedi'u cofrestru i siarad "partïon â diddordeb" lle bo hynny'n briodol. Bydd y cyfarfod yn cael ei gofnodi i'w drosglwyddo wedi hynny trwy wefan y Cyngor. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn. 01446 709855.
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx