GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.
Hysbysiad o Gyfarfod PWYLLGOR CRAFFU DYSGU A DIWYLLIANT
Dyddiad ac amser
Y Cyfarfod DYDD IAU, 10 MAWRTH, 2022 AM 5.00 P.M.
Lleoliad CYFARFOD O BELL
Agenda
RHAN I
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
[Gweld Cofnod]
2. Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2022.
[Gweld Cofnod]
3. Datgan buddiannau (gan gynnwys datganiadau chwipio) dan God Ymarfer y Cyngor.
(Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau’r Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau –
4. Monitro Refeniw a Chyfalaf 1 Ebrill i 31 Ionawr, 2022.
[Gweld Cofnod]
5. Adroddiad Monitro Cynllun Cyflawni Blynyddol: Perfformiad Chwarter 3 2021/22.
[Gweld Cofnod]
6. Cynlluniau Gwasanaeth a Phennu Targedau i gyflawni Cynllun Cyflawni Blynyddol 2022/23.
[Gweld Cofnod]
(Atgoffir yr Aelodau i hysbysu'r Adain Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu erbyn 12 canol dydd ar ddiwrnod y cyfarfod fan bellaf os ydynt angen presenoldeb swyddogion ar gyfer Monitro Perfformiad).
Adroddiad y Prif Wethredwr –
7. Adroddiad Argymhelliad ar gyfer y Grwp Tasg a Gorffen Cost yr Ysgol.
[Gweld Cofnod]
8. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).
RHAN II
GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
9. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).
Rob Thomas
Prif Weithredwr
3 Mawrth, 2022
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi C. Lindsey, Ffôn: 01446 709144
E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
I Aelodau’r Pwyllgor Craffu Dysgu a Diwylliant
Cadeirydd: Cynghorydd G.C. Kemp;
Is-Gadeirydd: Cynghorydd R.M. Birch;
Cynghorwyr: S.J. Griffiths, N.P. Hodges, T.H. Jarvie, J.M. Norman, A.C. Parker, S.D. Perkes, L.O. Rowlands (wedi’i ohirio am y cyfnod 18 Chwefror i 17 Mawrth 2022) a N.C. Thomas
Gwahoddir hefyd fel aelodau cyfetholedig:
Dr. M. Price (Yr Eglwys Babyddol).
L. Barrowclough (Rhiant-lywodraethwr – Sector Cynradd).
C. Williams (Rhiant-lywodraethwr – Sector Uwchradd)
Rôl wag (Yr Eglwys yng Nghymru).
Gwahoddir hefyd fel arsylwyr dibleidlais:
I. Cramb (Fforwm Ieuenctid y Fro).
T. Froud (Fforwm Ieuenctid y Fro).
G. Scott (Addysg Gymraeg).
Rôl wag (Cynradd).
Rôl wag (Uwchradd).
Rôl wag (Arbennig).
Rôl wag (Penaethiaid).
Rôl wag (Eglwysi Rhyddion).
SYLWCH:
Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol. Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol. Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’ sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.
Yn weithredol o 5 Mai 2022 er mwyn cydymffurfio ag Adrannau 46 a 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bydd rhai cyfarfodydd yn gofyn i’r rhai sy’n bresennol allu “i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd ac i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ". Mae cydweithwyr yn y Gwasanaethau Democrataidd a TGCh yn gweithio i sicrhau y cedwir at ofynion Adrannau 46 a 47 yn barod ar gyfer 5 Mai 2022.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn. 01446 709144.
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx